Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

October 2009
M T W T F S S
« Sep    
 1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

7th October 2009

Western Mail Essay

It should be pretty clear by now to any objective observer that the Labour Party is a few months away from suffering the most humiliating electoral defeat since 1931. With support now hovering in the low 20s, Gordon Brown is set to go down in history as the most unpopular Labour leader ever by returning fewer Labour MPs than even Michael Foot. The broad left group Compass has even talked darkly of this being “The Last Labour Government” with Tory gerrymandering and Scottish independence tipping Labour into terminal decline.

Readers may imagine that the champagne corks are popping in Plaid’s Ty Gwynfor HQ. They would be mistaken. The sudden implosion of social democracy anywhere – whether in England or, as happened recently, in Germany – can hardly be a cause for celebration for progressives, though in both cases the damage was largely self-inflicted as what were, after all, historically movements for the political representation of the working classes wandered so far from their founding ideals that they ended up barely recognisable. And now the former workers’ parties wonder where all the party workers went.

There is an air of inevitability about the British Labour Party’s demise. It is not just the cruel and inexorable swing of the political pendulum – though the boredom threshold of the Great British Public should never be underestimated. It is the scale and the sheer brutality of the cataclysm that awaits Gordon Brown that suggest something deeper at work, something more akin to the iron law of history. Sometimes the tragi-comic tales that emanate from Labour’s bunker – the temper-tantrum trashing of mobile phones and the like – reminds me of what it must have been like in Vienna in the last days of the Habsburg empire, that sense of incredulity and incomprehension at the thought of absolute power slowly and quietly slipping away forever.

But it’s probably the last days of the Soviet Union that is the closer historical analogy to the death throes of this particular leviathan. New Labour – the party’s perestroika gambit- has failed, a hapless if well-meaning leader (granted, Brown is more Brezhnev than Gorby) is surrounded by cack-handed Generals wondering whether to launch a coup, and a bombastic, blond-haired right-winger called Boris is installed as Mayor in the Capital. Soon a right-wing government plunges the country into the new orthodoxy of economic austerity. At least the Baltic States had the option of reaching for the exit. And so, of course, in the long-run do we.

By my estimate it may take a decade for Labour in Wales to realise that there is no way back to power in London, but that social democracy in a country like ours can not just survive but thrive. With the right leader learning the right lessons, then red-green could be the greatest partnership since Barry John and Gareth Edwards. Who knows it could even be Labour, not Plaid, that one day leads us into independence. One Wales Two, anybody?

The response to that invitation will, no doubt, be deafening from Labour’s prospective First Ministers – tempted though Huw Lewis and Carwyn Jones’ consigliore Leighton Andrews might be to shower me with a bucket of metaphorical spit. In choosing its new leader though Labour surely cannot make the same mistake it made in electing Brown by holding a conversation solely with itself. The new Leader will, after all, lead not just a party but a country so we need to know now where they will stand not just on the referendum (and the imminent Convention report) but Labour’s entire political direction, which, for now at least will dictate the political direction of a nation. If they intend to drop the Grand Coalition at the earliest available opportunity in favour of hooking up with a yellow-tinged party of the centre, as Angela Merkel has just done, they need to let us know now – and I speak as much as tomorrow’s ordinary citizen as today’s party politician.

I hope to return from the US a bit more bipartisan than I am now, having successfully expunged some of Westminster’s worst sectarian habits from my political psyche. There are some hopeful red-green shoots – like the WalesHome website or the magazine Celyn – that suggest that Labour and Plaid activists are indeed learning to speak a common language, just as they had to in the 1980s. Sadly, Labour’s leaders in Wales peddle the same old poisonous rubbish, though I must admit when Peter Hain said in his Conference speech that “Plaid Cymru…are preparing to work with the Tories” I wondered for a second if he’d got us mixed up with Mandelson. Soon, in any case, the only Labour government left will be one that Plaid created. Come 2011, who knows, Peter (Hain, that is, not Mandelson) may even be working for us.

Dylai fod yn weddol amlwg erbyn hyn i unrhyw sylwedydd gwrthrychol fod y Blaid Lafur rai misoedd i ffwrdd o ddioddef ei chrasfa etholiadol waethaf ers 1931. Gyda chefnogaeth bellach yn hofran tua’r 20au, mae Gordon Brown fel petai’n anelu am ei le yn hanes fel yr arweinydd Llafur mwyaf amhoblogaidd erioed, gan ddychwelyd llai o ASau Llafur na Michael Foot, hyd yn oed. Mae’r grŵp chwith eang Compass hyd yn oed wedi crybwyll y gallai hon fod “y Llywodraeth Lafur Olaf” gyda threfnu ffiniau Toriaidd ac annibyniaeth i’r Alban yn gwthio Llafur dros y dibyn.

Hawdd y gall darllenwyr ddychmygu’r cyrc siampên yn popian ym mhencadlys y Blaid yn Nhŷ Gwynfor. Camgymeriad fyddai hyn. Prin y gall dymchweliad democratiaeth gymdeithasol yn unman – boed yn Lloegr neu, fel y digwyddodd yn ddiweddar, yr yr Almaen – fod yn achos dathlu i bobl flaengar, er, yn y naill achos a’r llall, hunan-niweidio a wnaeth mudiadau a oedd, wedi’r cyfan, yn fudiadau hanesyddol i gynrychioli’r dosbarth gweithiol yn wleidyddol, ond eu bod wedi crwydro mor bell oddi wrth y delfrydau a’u sylfaenodd fel mai prin y mae modd eu hadnabod bellach. A dyma gyn-bleidiau’r gweithwyr yn awr yn meddwl tybed i ble’r aeth holl weithwyr y pleidiau?

Mae rhyw naws anorfod am dranc Plaid Lafur Prydain. Nid yn unig gogwydd creulon ac anorfod y pendil gwleidyddol yw hyn er na ddylech fyth anwybyddu trothwy diflastod y Dyn ar y Stryd ym Mhrydain. Graddfa a naws gignoeth y chwalfa sy’n wynebu Gordon Brown sy’n awgrymu bod rhywbeth dyfnach ar waith, rhywbeth tebycach i ddeddf haearnaidd hanes. Weithiau, mae’r hanesion chwerw-ddoniol ddaw allan o fyncer Llafur – ffitiau o dymer, chwalu ffonau symudol ac ati – yn rhoi syniad i mi o sut yr oedd pethau yn Vienna yn nyddiau olaf ymerodraeth yr Habsbwrgiaid, yr ymdeimlad hwnnw o anghredinedd ac anallu i amgyffred y ffaith fod grym absoliwt yn llithro’n dawel bach allan o’u gafael am byth.

Ond mae’n debyg mai dyddiau olaf yr Undeb Sofietaidd yw’r gymhariaeth hanesyddol orau i’w chrybwyll wrth edrych ar y lefiathan arbennig hwn yn gwingo ym mhoenau ei dranc. Mae Llafur Newydd – syniad perestroika’r blaid- wedi methu, ac y mae arweinydd didoreth os da ei fwriadau (a derbyn fod Brown yn fwy o Brezhnev na Gorby) wedi ei amgylchynu â Chadfridogion di-glem yn gogordroi ynghylch y syniad o lansio coup neu beidio, ac y mae gwleidydd aden-chwith bostfawr, goleubryd o’r enw Boris yn Faer y Brifddinas. Ar fyrder, bydd llywodraeth aden-dde yn arwain y wlad i uniongrededd newydd llymder economaidd. O leiaf roedd gan Wladwriaethau’r Baltig y dewis o anelu am y drws a ffoi.

Mae’r dewis hwnnw gennym ninnau, wrth gwrs, yn y tymor hir. Yn ôl f’amcangyfrif i, fe gymer tua degawd i Lafur yng Nghymru sylweddoli nad oes ffordd yn ôl i rym yn Llundain, ond y gall democratiaeth gymdeithasol mewn gwlad fel ein hun ni nid yn unig oroesi ond ffynnu. Gyda’r arweinydd iawn yn dysgu’r gwersi iawn, yna gallai coch-gwyrdd fod y bartneriaeth fwyaf ers Barry John a Gareth Edwards. Pwy a ŵyr, efallai hyd yn oed mai Llafur, nid Plaid, fydd un dydd yn ein harwain i annibyniaeth. Cymru’n Un Dau, unrhyw un? Diau y bydd yr yr ymateb i’r gwahoddiad hwnnw yn fyddarol o du darpar- Brif Weinidogion Llafur – er cymaint y temtir Huw Lewis a consigliore Carwyn Jones, Leighton Andrews,i daflu bwced o boer metafforaidd ar fy mhen. Wrth ddewis eu harweinydd newydd, er hynny, does bosib y bydd Llafur yn gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth wrth ethol Brown trwy gynnal sgwrs un unig â’i hun?

Wedi’r cyfan, bydd yr Arweinydd newydd yn arwain nid yn unig plaid ond gwlad, felly rhaid i ni wybod yn awr lle byddant yn sefyll nid yn unig ar y refferendwm (ac adroddiad y Confensiwn sydd ar fin ymddangos) ond ar holl gyfeiriad gwleidyddol Llafur a fydd, am y tro beth bynnag, yn dweud beth yw cyfeiriad gwleidyddol cenedl. Os bwriadant roi’r gorau i’r Glymblaid Fawr cyn gynted ag y bo modd, o blaid cael eu bachau ar blaid y canol gyda rhyw wawr felen, fel mae Angela Merkel newydd wneud, fe ddylent roi gwybod i ni – ac yn hyn o beth rwy’n siarad yn gymaint fel dinesydd cyffredin yfory ag fel gwleidydd plaid heddiw.

Rwy’n gobeithio dychwelyd o UDA fymryn yn fwy dwyblaid nac yr ydwyf ar hyn o bryd, wedi carthu rhai o arferion sectyddol gwaethaf San Steffan o’m psyche gwleidyddol. Y mae rhywfaint o egin coch-gwyrdd – fel gwefan WalesHome neu’r cylchgrawn Celyn – yn awgrymu fod ymgyrchwyr Llafur a’r Blaid yn wir yn dysgu siarad iaith gyffredin, yn union fel y bu’n rhaid iddynt wneud yn y 1980au. Ysywaeth, mae arweinyddion Llafur yng Nghymru yn dal i bedlera’r un hen rwtsh gwenwynllyd, er, mae’n rhaid i mi gyfaddef, pan ddywedodd Peter Hain yn ei araith yn y Gynhadledd fod “Plaid Cymru…yn paratoi i weithio gyda’r Toriaid” i mi feddwl am funud tybed a oedd wedi drysu rhyngom ni a Mandelson. Yn fuan iawn, beth bynnag, yr unig lywodraeth Lafur fydd ar ôl fydd un a grewyd gan y Blaid. A phan ddaw 2011, pwy a ŵyr, fe all Peter (Hain, hynnynyw,nid Mandelson) fod yn gweithio i ni hyd yn oed. -

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.