Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

May 2009
M T W T F S S
« Apr    
 123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

1st May 2009

Polisiau amgylcheddol ddim yn gweithio / Environmental policies not working

Ymddiheuriadau am yr oedi, ond dyma fy ngholofn ar gyfer wythnos diwethaf (23/04/09).

Apologies for the delay, but here’s my column from last week’s Golwg (23/04/09).

***

Fis Mawrth, yn ol ystadegau swyddogol arbenigwyr gwyddonol y Llywodraeth yn America, oedd y degfed mis cynhesaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1880. Dyma un darn arall o dystiolaeth sydd yn tanlinellu pam fod bron i bob gwyddonydd erbyn hyn yn poeni am effeithiau’r argyfwng yn yr hinsawdd. 

Mae tymheredd Cymru ar gyfartaledd wedi codi 1.3% ers 1961.  Mae hyn am godi i 3% erbyn 2080 hyd yn oed o dan y rhagolygon mwyaf optimistaidd os ydy tueddiadau presennol yn parhau.

Mae hynny megis dim o gymharu ag ardal ddeheuol y Sahara yn Affrica a fydd yn troi yn ddifeithwch, neu ddeheudir Ewrop fydd yn wynebu tymheredd rhyw 4 neu 5% yn fwy na heddiw gan wneud y rhan fwyaf o Sbaen yn anaddas i fyw ynddi i bob pwrpas ar gyfer y niferoedd sydd yn byw yno ar hyn o bryd. 

Y bygythiad mwyaf i Gymru, mae’n debyg, fydd y symudiadau anferth o bobl yn ffoi i ardaloedd mwy cymedrol gogledd-orllewin Ewrop. Gallwn efallai disgwyl i boblogaeth Cymru ddyblu wrth i ffoaduriaid o Affrica, y Dwyrain Canol a gweddill Ewrop dyrru i’r Gogledd am loches. Mi fydd hyn yn hollol anghynaladwy wrth gwrs mewn gwlad fydd eisoes dan bwysau amgylcheddol aruthrol. 

Beth i wneud felly? Dyma’r cwestiwn y bydd fy mhlaid i ym ymrafael a hi yn ei Gwanwyn Gwydd penwythnos yma yn y Gerddi Botaneg – diwrnod o drafod a dadlau (ie, melinau gwynt) amgylcheddol. 

Dydy record Cymru hyd yn hyn ddim yn wych – fe gyfrannodd meysydd glo Cymru yn sylweddol at y cynnydd mewn carbon yn yr ugeinfed ganrif wrth gynnig pweri  longau stem beth wmbredd o lynges fasnachol yr Ymerodraeth Brydeinig.   Hyd yn oed heddiw, a’r haul yn machlud ar y diwydiant glo Cymreig, mae Cymru yn dal yn drydydd uchaf yn Ewrop o ran allyrannau’r pen. 

A dilyn nid arwain mae Cymru o ran polisi ar hyn o bryd.  Mae targed y Cynulliad o ostwng allyrannau 3% y flwyddyn yn llai uchelgeisiol na’r un Prydeinig o ostyngiad 80% o gymharu gyda 1990 erbyn 2050.  Mae angen codi hwn i 3.5% neu byddwn ni unwaith eto ar ei hol hi yn amgylcheddol. 

Er mwyn dal i fyny, dylem hefyd ystyried cyflwyno system masnachu allyrannau ein hunain – fel mae hawl gyda ni i wneud o dan y Ddeddf Newid Hinsawdd – yn lle cydymffurfio gyda’r gyfundrefn Brydeinig fel sydd yn cael ei awgrymu ar hyn o bryd.  Ar adeg pan fo busnesau dan bwysau mae hyn yn gofyn am gryn dipyn o arweiniad gwleidyddol.

Ond rydym ar fin cyrraedd pwynt pan fydd yr ia hynafol – y permafrost  - yn gollwng ei garbon i’r awyr gan ysbarduno cylchdro cynhesu diymdroi.  Dyw hi ddim yn rhy hwyr eto – ond dyw’r polisiau presennol ddim yn gweithio.

***

According to statistics from American Government scientists, March was the tenth warmest month since records began in 1880. This is another snippet of evidence which underlines why almost every scientist is by now concerned about the effects of the climate crisis.

 

The Welsh average temperature has risen 1.3% since 1961. This will rise to 3% by 2080 even under the most optimistic projections if the present trends continue.

 

This is as nothing compared to sub-Saharan Africa which will become a wilderness or southern Europe which will face temperatures of 4 or % more than today, making the majority of Spain to all purposes uninhabitable for the numbers living there at present.

 

The greatest threat to Wales, it seems, will be the large movement of people fleeing to more moderate north-western parts of Europe.

 

We can perhaps expect to double our population in Wales from refugees from Africa, the Middle East and the rest of Europe crowding to the North for shelter.

 

This will of course be entirely unsustainable in a country that will already be under immeasurable environmental pressure.

 

What to do then? That is the question with which my party will be contending in their Gwanwyn Gwyrdd (Green Spring) this weekend in the Botanical Gardens – a day of environmental discussion and debate (yes, windfarms).

 

Wales’ record isn’t great – Wales’ coal mines contributed significantly to the increase in carbon in the twentieth century through powering an abundance of steam ships, the British Empire’s commercial fleet.

 

Even now, with the sun setting on Welsh coal industry, Wales is still the third highest in Europe in emissions per head.

 

And Wales is following, not leading, in terms of policy at the moment. The Assembly’s target of cutting emissions by 3% per year is less ambitious than the British of cutting 80% through comparing 1990 against 2050.

 

This needs to be raised to 3.5% or we will once again be behind environmentally. In order to keep up, we should consider introducing a commercial emissions system ourselves – as we have the right to do under the Climate Change Act – instead of falling in line with the British system as suggested at the moment.

 

At a time when businesses are under pressure, this asks for quite some political leadership.

 

But we are almost at the point where the oldest ice – the permafrost – is discharging its carbon into the air by spurring irreversible global warming.

 

It’s not too late yet – but the present policies aren’t working.     

 

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.