Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

June 2009
M T W T F S S
« May    
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

26th June 2009

Etholiadau Ewrop / European Elections

Do, ni chaethon ni’r ail sedd a fe ddaethon ni’n drydydd, ond mi oedd hon, serch hynny, yn ganlyniad da i Blaid Cymru.  Daeth y Blaid o fewn 20,000 - neu 2.7% y cant yn unig o’r bleidlais - i ddod yn gyntaf.  Mae hyn o fewn cyd-destun yr etholiad Ewropeaidd mwyaf Prydeinllyd erioed yn wyneb yr holl ffocws ar y sgandal treuliau.  Does dim gwasg Gymreig a does gyda’r Blaid ddim yr adnoddau sydd gan y pleidiau eraill, y Ceidwadwyr yn arbennig.  Er hynny fe aeth ein pleiadlais ni i fyny 1.1% a’r Toriaid 1.8% , sy’n ganlyniad credadwy iawn.   Ac mae’r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cydnabod taw’r Blaid - fel yn 2007 - a gafodd yr ymgyrch orau.
Penderfynon ni flwyddyn yn ol i ddefnyddio’r Etholiad Ewropeaidd yn bennaf fel cyfle i adeiladu tuag at yr Etholiad nesaf yn San Steffan  Cafodd ein hadnoddau eu sianeli felly at saith sedd:  Ynys Mon, Arfon, Conwy, Meirionnydd, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin, a Llanelli.  Fe gyrrhaeddon ni’r  nod wrth ennill ym mhob un o’r saith sedd. Nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn ond arwydd o Blaid sydd ag adnoddau cyfyngedig yn ymgyrchu yn effiethiol ac yn effeithlon. Mae hyn yn adlewyrchu talent y tim ifanc yn Nhy Gwynfor ond hefyd lefel uwch o weithgarwch gan actifyddion y Blaid na welwyd mewn ymgyrch Ewropeaidd ers ymdrech Dafydd Wigley ym 1994.
Hawdd fasai cymharu’r Blaid gyda’r SNP.  Rhaid atgoffa’n hunain bob amser am y gwahaniaethau sylfaenol yn  sefyllfa Cymru: y ffin a Lloegr yn un hir ac yn agos i ganolfannau poblogaeth Lloegr, lle bod un yr Alban yn gyfyng ac yn bell.  Mae dylanwadau Seisnig - yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, o symudiadau poblogaeth ac effaith teledu rhanbarthol yn Lloegr  - ar ein  gwleidyddiaeth  yn amlwg.  Mae’r ffaith bod UKIP yn cael dros ddwbl y bleidlais yn Nghymru maen nhw’n cael yn yr Alban yn rhannol yn arwydd o hyn.
Yn y Cymoedd, mae yna arwyddion addawol bod y Blaid unwaith eto ar gynnydd.  Daethon ni o fewn 500 bron i ennill yng Nghaerffili ac yn ail ym mron bob man arall, gan gynnwys Merthyr, er enghraifft, lle nad oes gyda ni unrhyw beirianwaith a lle mae gan y Rhyddfrydwyr rhyw hanner dwswin o gynghorwyr.  Mae’r Uned Ddatblygu newydd mae’r Blaid wedi cyhoeddi yn sgil y canlyniadau a’r nod o adeiladu ar y potensial hyn. Mae’r wobr o ddod yn gyntaf yn genedlaethol yno i ni hefyd os cydiwn yn y cyfle yn 2011.  

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - — -

Yes, we didn’t get the second seat and we came third, but, despite that, it was a good result for Plaid Cymru. Plaid came within 20,000 – or only 2.7% of the vote – of being first. This within the context of the most British European election ever, in the face of the entire focus on expenses scandals. There isn’t a Welsh press and Plaid doesn’t have the resources of the other parties, especially the Conservatives. Despite that, our vote went up by 1.1%, with the Tories up 1.8%, making a very credible result. And the majority of commentators admit that Plaid, as in 2007, had the best campaign.

We decided a year ago to use the European Elections mostly as an opportunity to build towards the next Westminster elections. Our resources were therefore channelled towards seven seats – Ynys Mon, Conwy, Meirionydd, Caernarfon, Ceredigion, Carmarthen East and Llanelli. We achieveed our aims by winning each and every one of the seven seats. This wasn’t a co-incidence but a sign that Plaid, with limited resources, campaign effectively and efficiently. This reflects the talent of the young team at Ty Gwynfor, but also the high level of activity by Plaid activists, not seen in a European campaign since Dafydd Wigley’s efforts in 1994.

It would be easy to compare Plaid with the SNP. But we must remind ourselves each time about the basic differences in the Welsh situation: the border with England is long and close to English population centres, whereas that of Scotland is narrow and far away. Anglo-influences on our politics, both direct and indirect, from population movements to the effect of English regional television, are obvious. The fact that UKIP has more than double the vote in Wales that they have in Scotland is partly a sign of this.

In the Valleys, there are promising signs that Plaid are once more growing. We came within 500 votes to almost win in Caerphilly and second almost everywhere else, including Merthyr, for example, where we haven’t any party machine but where the Lib Dems have some half a dozen councillors. The new Development Unit that Plaid has announced as a consequence of these results has the aim of building on this potential. The prize of coming first nationally is there too, if the opportunity is grasped in 2011.

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.