7th November 2008
Colofn Golwg - Ymgyrch ‘Ie’ Heb Oedi Pellach
Ym mwrlwm y clymbleidio rhyfeddol y llynedd, fe gyfeiriodd sawl un at debygrwydd digwyddiadau ar draws y Mor Celtaidd. Os oedd Martin McGuinness yn medru eistedd lawr gyda Ian Paisley, pam ddim Ieuan Wyn a Rhodri? Un gwahaniaeth mawr, wrth gwrs, oedd penderfyniad Arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams, i aros tu fas i’r Llywodraeth. Penderfyniad call iawn yn wyneb yr ymgecru mewnol wnaeth ddisodli Paisley hýn a iau ill dau.
Mewn Cynulliad o 60 doedd y polisi o ymneilltuo byth yn opsiwn i Blaid Cymru. Ond dyma ydy’r strategaeth mae’r Blaid Lafur yn amlwg bellach yn ei ddilyn. Dim ots pwy bynnag wnaiff olynu Rhodri Morgan, dyw gwir arweinydd y Blaid Lafur ddim ym Mae Caerdydd - mae’n eistedd yn holl ogoniant ysblennydd y Ty ar y Tafwys. Mae’r Unol-Lafurwyr ar ryfelgyrch a Swyddfa Cymru – yn arbenning yn sgil symudiad Huw Irranca-Davies – yn gwneud cymaint y medren nhw i danseilio Llywodraeth Cymru’n Un. Gweler ymyrraeth anhygoel Paul Murphy yn argyfwng banciau Gwlad yr Iâ, yn mynnu taw Llywodraeth Cymru biau’r cyfrifoldeb am unrhyw ddigolledu – er mai gweithredu ar sail cyngor yr Trysorlys yr oedden nhw ac allan o gronfa brys y DG y byddai unrhyw ddigolledu yn dod. Yr oedd ei sylwade sbeitlyd sectyddol am gyngor Caerffili (gan anwybyddu’r holl gynghorau Llafur mewn trafferthion) yn atgoffa dyn o ymosodiad Rod Richards ar gynghorwyr Llafurol ’seimllyd’. Nid y math o beth mae dyn yn disgwyl gan Weinidog.
Mewn ateb ysgrifenedig mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bod rhaid i’r Cynulliad osod mas “yn glir ac yn ddiamwys” sgôp deddfu arfaethedig unrhyw Orchymyn drafft. Amser a ddengys os yw hyn yn golygu cydymdeimlad a safbwyntiau gwrth-ddatganoli y Pwyllgor Materion (Gwrth-) Gymreig. Oni fu yna addewidion gan Weinidogion gynt (Nick Ainger) na fyddai gorchymyn yn “gosod mas manylder y polisi mae’r Cynulliad yn dymuno gweithredu… oherwydd mai mater i’r Cynulliad benderfynu yw hynny”?
Ddwywaith hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Paul Murphy wedi gwrthod cadarnhau y byddai’r Llywodraeth yn cefnogi cais gan y Cynulliad am Refferendwm yn ystod y tymor yma pe ddigwyddai hynny yn unol â chytundeb Cymru’n Un
Nofio yn erbyn llif hanes, wrth gwrs, mae’r Blaid Lafur Seneddol Gymreig. Mae nhw wedi colli eu hymerodraeth wleidyddol, a heb ddarganfod rol newyddyn iddyn nhw eu hunain.
Sut dylen ni yng Nghymru ymateb i’r musgrellredd gwleidyddol hwn? Yr ateb syml yw sefydlu ymgyrch ‘ie’ heb oedi pellach. Yng ngeiriau Gweinidog arall wrth drafod refferendwm ar bwerau deddfu llawn:
“Don’t shout at the Government, but go out and win the argument. Make the case to the people of Wales . If you win the argument, this Bill provides a mechanism for delivery. The ball is now in your court.” Clywch, clywch Mr Hain.
2 Responses to “Colofn Golwg - Ymgyrch ‘Ie’ Heb Oedi Pellach”
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.
sparklejonesie says:
November 13th, 2008 at 3:50 pm
Felly, pam fydd Plaid ddim yn cefnogi’r ymgyrchydd Mike German? Mae e’n wedi galw am ymgrych trawsbleidiol llawer o amser. Mae rhaid o Llwyodraeth yn ymgyrch dros pleidleis Ie nawr.
sparklejonesie says:
November 13th, 2008 at 3:54 pm
Basai e’n darllen “ymgyrch Mike German” wrth gwrs!