13th November 2008
Colofn Golwg - Nid “Y Ddadl o Blaid Academi Filwrol” chwedl Golwg ond o blaid troi’r academi filwrol yn academi heddgadw
Wrth osod torch yn ystod Sul y Cofio, fe’m cyflyrwyd i feddwl am le y fyddin yn y meddwl Cymreig. “Awn i gwrdd y gelyn” y bloeddion ni yn niweddglo y gwasanaeth egwlysig a ddilynodd. Ond brwydr ysbrydol oedd wrth wraidd dychymyg yr emynydd anghydffurfiol. Ac eto, mae bron i ddeg y cant o’r lluoedd arfog yn dod o Gymru – dwywaith ein canran o boblogaeth. Gallwn fod yn eitha ffyddiog taw nid ffenomenon diweddar mo hwn. Mae’r Cymry wedi bod ar flaen y gâd – yn llythrennol hynny yw – ym myddinoedd Prydain o Rourke’s Drift i Goedwig Mametz a nawr Afghanistan.
Ac eto mae perthynas diwylliant Cymreig – ac yn fwyaf oll Cymraeg – a’r tradoddiad milwrol wedi bod yn un cymharol sarrug at ei gilydd. Mae hyn yn wahanol iawn i’r sefyllfa yn yr Alban lle mae traddodiad milwrol cynhenid wedi ei ddatblygu a’r fyddin ar ol gwrth-rhyfel 1745 yn ymgorffori elfennau amlwg o hunaniaeth yr Ucheldiroedd – y cilt, y cotbib a ffyrnigrwydd ymladdol y Gaeliaid – yn asiad hynod effeithiol a grymus. Gafr a bwyta cenhinen unwaith y flwyddyn oedd ymgais tila y Catrawde Cymreig i naddu delwedd genedlaethol. Dyw’r delyn ddim yn rhyw gynnig ei hun ar gyfer gorymdeithio – ond pa wahaniaeth y byddai defnydd helaethach o’r iaith Gymraeg a chaplaniaid Anghydffurfiol wedi gwneud?
Mae cenedlaetholdeb Cymreig wedi drwgdybio militariaeth un ai oherwydd ein bod yn heddychwyr, yn wrth-Brydeinwyr, yn wrth-imperialwyr, yn weriniaethwyr neu oherwydd ein bod yn gyfuniad o’r cyfan. Ac eto, roedd gymaint o genedlaetholwyr yn gyn-filwyr – o Saunders Lewis i Gwyn Alf Williams – ag yn wrthodwyr cydwybodol. Mae hefyd yn syndod faint o genedlaetholwyr a gewch chi yn rhengoedd y Fyddin heddiw – er gwaetha lein cyson – a chywir - y Blaid yn erbyn y rhyfel yn Irac. Nid meibion a merched afradlon Cymru lan, Cymru lonydd mo’r rhain ond adlewyrchiad o realiti cymdeithasol y Gymru sydd o honi. Oni ddylen ni wahanieithu felly rhwng y Fyddin fel sefydliad a’r milwyr fel unigolion, rhwng y rhyfeloedd a’r bobl sydd yn eu hymladd?
Yn yr un modd tra bod protestio yn erbyn polisiau a rhyfeloedd a dulliau ac arfau milwrol yn ddilys, ydy gwrthwynebu academi hyfforddiant fel y cyfryw yn gwneud synnwyr? Onid natur yr hyfforddiant ddylai fod ffocws ein gwrthwynebiad ni. Wedi’r cwbl pan ffurfiwyd West Point gan yr Americanwr o Gymro, Thomas Jefferson, academi heddwch oedd ei weledigaeth e. Oni allwn ni ffocysu ein meddyliau ar greu mewn cysylltiad a’r datblygiad hwn pwsylais newydd a chanolfan rhyngwladol o ragoriaeth mewn ymdrechion hedd-gadw.
One Response so far to “Colofn Golwg - Nid “Y Ddadl o Blaid Academi Filwrol” chwedl Golwg ond o blaid troi’r academi filwrol yn academi heddgadw”
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.
masaryk says:
November 24th, 2008 at 10:23 pm
pwyntiau da. Nid yw pob cenedlaetholwr yn heddychwr. Dal dy dir!
Erthygl ar lu arfog mewn Cymru annibynnol fan hyn efallai fyddai o ddiddordeb:
http://independent-wales.blogspot.com/2007/03/1-how-many-aircraft-carriers-sion.html