7th February 2008
Colofn Golwg
Mae rhyw fath o gymhlethod hunaniaeth wedi nodweddu’r BBC yng Nghymru ers y cychwyn: ‘rhanbarth cenedlaethol’ – ieithwedd sy’n atgoffa dyn o’r Undeb Sofietaidd - oedd Cymru o fewn corfforaeth Brydeining o1953 tan ddyfodiad datganoli. Mae’r BBC, fel darlledwr dwyieithog, yn anorfod yn cyflogi nifer fawr o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny, yng ngwydd rhai, yn ddigon i’w condemndio nhw a’u cyflogwr fel nyth o genedlaetholwyr. Yn eu hawydd i wrth-brofi hyn, mae golygyddion y BBC dros y blynyddoedd wedi mynd allan o’u ffordd i ddangos eu ‘gwrth-rychedd’. I wneud yn iawn am un darllediad fach gan Saunders Lewis, fe gafwyd chwarter canrif o Vincent Kane a’i lygaid yn pefrio, wrth gwestiynnu un ‘eithafwr iaith’ ar ôl y llall.
Y llynedd, mewn ymyrraeth ddadleuol wedi ei amseru yng nghanol wythnos cynhadleddau cadarnhau cytundeb Cymru’n Un, fe gyhoeddodd y BBC ganlyniadau arolwg barn oedd yn ceisio dangos bod mwyafrif pobl Cymru yn erbyn deddf iaith newydd. Y sawl sy’n llunio’r cwestiwn, wrth gwrs, sy’n llywio’r ateb. Gofynnwyd i bobl a oedden nhw o blaid ‘gorfodi’ y sector preifat i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Pe bae’r BBC wedi dewis gofyn i bobl a oedden nhw yn credu mewn hawliau iaith cyfartal, byddai’r ateb wedi bod yn bur gwahanol, mae’n siwr. Fel crybwyllwyd ar y pryd gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru, mi oedd hyn yn enghraifft clasurol o allu a thuedd y cyfryngau nid i adrodd y newyddion, nag adlewyrchu barn, ond i greu stori, i setio agenda a fframio cwestiwn yn ôl eu dehongliad nhw o’r hyn oedd yn wirioneddol bwysig.
A dyma ni, unwaith eto yr wythnos hon yn clywed y ‘newyddion’ mai dim ond 1% o Siaradwyr Cymraeg sydd yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y cwmnïau mawr. Nid stori newyddion oedd hon – ond naratif, yn cynnwys elfen ffeithiol ond yn cario neges fel is-destun: dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn ‘haeddu’ hawliau newydd.
Tra bod y BBC ym Mhrydain yn colli ei le canolog ym mywyd y genedl gyda dyfodiad y byd aml-gyfrwng, mae ganddi ddylanwad yng Nghymru sydd yn gatholig-ganoloesig ei led. Ar fater Cymru a’r Gymraeg, y BBC sy’n darparu deunydd crai beunyddiol ein trafodaeth gyhoeddus, a hynny yn y ddwy iaith. Os na all hi wneud hynny yn ddi-duedd, efallai y dylid dadorseddu monopli meddyliol arch-esgobion Llandaf. Mae ITV Cymru wedi ennill cytundeb i ddelifro gwasanaeth tywydd i S4C. Oni fyddai’n chwa o awyr iach iddyn nhw gynhyrchu’r newyddion hefyd?
One Response so far to “Colofn Golwg”
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.
Sion says:
February 8th, 2008 at 2:33 pm
Adam: “mae ganddi [y BBC] ddylanwad yng Nghymru sydd yn gatholig-ganoloesig ei led.”
… dyna un reswm pam fod nifer ohonom yn cefnogi sefydlu papur dyddiol annibynnol Gymraeg Y Byd.
Dwi’n gobeithio’n fawr ‘mod i’n anghywir, ond mae’n ymddangos i nifer nad yw PC am weld papur dyddiol Cymraeg ond heb ddweud hynny’n onest. Mae cyflwyno grant o £200k, tua 0.2% o gyllideb S4C neu efallai’n hafal i gyflog 5 o gyflwynwyr newyddion amlwg BBC Cymru, mor fychan fel nad yw’n bosib rhedeg papur yn llwyddiannus ar gyn-lleied. I bob pwrpas mae’n bwdin oer.
Mae papur Wyddeleg, La Nua, a dderbyniodd grant debyg n dod i ben. Dwi’n credu fod seiliau cyrfach i’r gymuned Gymraeg ond mae’n dynn gythreilig. Mae’n anodd cyflwyno papur deiniadol fydd yn denu a chadw darllenwyr ar gyllideb annigonnol - fydde ti’n barod i weld S4C yn gweithio ar gyllideb o £10m ac yn cael ei ddarlledu ar y we yn unig?
Pam fod gwleidyddion Cymru’n barod i ymladd dros ‘chwarae teg’ i’r cyfryngau gweledol Cymraeg (a Chymreig) ond yn disgwyl i’r wasg brint fyw o’r llaw i’r gennau? Hoffwn weld S4C neu BBC Cymru’n yn cyflwyno cynllun busnes oedd yn rhagweld codi gymaint o gyllid drwy hysbysebu ag y mae disgwyl i’r Byd wneud.
Pam fod pobl yn son am niferoedd prynwyd y Byd ond ddim am niferoedd / diffyg niferoedd Radio Cymru neu S4C. Ydy Plaid Cymru ddim am gefnogi rheini hefyd oherwydd diffyg defnyddwyr?
Cyflwynir symiau mawrion i ariannu Canolfan y Mileniwm neu’r Ardd Fotaneg ond llawer llai i gynnal papur fyddai’n gorseddi’r Gymraeg a yn dod ag elfen o annibynniaeth i drafodaeth wleidyddol a diwylliannau sy’n cael ei reoli gan y BBC a’r Western Mail.
Byddai papur dyddiol Cymraeg fel ‘chwa o awyr iach’ fel ddwedes di ond mae’n edrych yn debyg fod y drws hwnnw ar gau. Dewis gwleidyddol sy’n gyfrifol am hynny.