17th December 2007
Ers ei chreu ym 1995 mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwneud cyfraniad cynyddol i adfywhau cymunedau difreintiedig. Efallai mai’r adeiladau eiconig fel y Stadiwm a’r Ganolfan Mileniwm ddaw i’r meddwl yn gyntaf – ond mae miloedd o brosiectau bach trwy’r wald wedi adeiladu ac adfer hyder lleol. Ond mae’r hyder newydd hwnnw yn nawr yn cael ei aberthu er mwyn porthi’r prosiect adeiladu mwyaf yn y ddinas gyfoethocaf yn Ewrop, y Gemau Olympaidd. Yn ôl y cynnig gwreiddiol, £410 miliwn yn unig oedd cyfraniad y Loteri i ariannu’r Gemau. Pe bae cyfrifo creadigol yn gamp Olynmpaidd mi fyddai’r Llywodraeth yma yn sicr o gipio’r aur. Nid syndod ond siom, felly, fu cyhoeddiad Tessa Jowell yn gynharach eleni y byddai rhaid i’r Loteri ildio mwy, llawer mwy nag addawyd ar y cychwyn. Yn ôl y Gynghrair o awdurdodau lleol yn yr ardaloedd diwydiannol traddodiaol bydd cyfanswm o £2, 175 miliwn yn cael ei ddargyfeirio o’r Loteri i ariannu’r Gemau. Mae hyn yn cynnwys £340 miliwn o’r cronfeydd ar gyfer chwaraeuon – gan gynnwys y Gronfa Gymreig - £750 miliwn yn sgil creu y garden crafu Olympaidd newydd. Mae’r cyfanswm yn cyfateb i £36 i bob person ym Mhrydain. A’r Loteri yn unig ydy hwn, wrth gwrs: dyw hi ddim yn cynnwys y gost i’r trethdalwr. Mae’r effaith i weld yn lleol yn barod. Mae pob un o’r canolfannau teuluol yn Sir Gaerfyrddin sydd yn cael ei rhedeg o dan adain prosiect Plant Dewi yr Eglwys yng Nghymru wedi derbyn arian gan Gronfa Fawr y Loteri. Mae’r Canolfannau yn cynnig cymorth yn arbennig i deuluoedd dan anfantais – a than nawr mae’r Loteri wedi cefnogi ail gyfnod o ariannu ym mhob achos. Ond mae Canolfan Deuluol y Betws, ger Rhydaman, nawr yn wynebu cau yn sgil gwrthodiad eu cais er gwaetha’r lleoliad ar stad gyngor mewn ardal cyn-lofaol a ddioddefodd yn waeth nag unrhyw le dan grafangau Thatcheriaeth. Yn y gystadleuaeth rhwng y Gemau a gofal plant does dim ond un ennillydd. Ond mi fydd miliyniau yn colli. Yn ôl y Gynghrair, bydd Sir Gaerfyrddin yn unig yn colli £6.5 miliwn. Ar hyn o bryd mae Llundain ar ei hennill ddwywaith drosodd, nid yn unig trwy’r buddsoddiad gwreiddiol ond am y ffaith mai Asiantaeth Datblygu Llundain fydd yn elwa o werthu tir y Pentref Olympaidd wedi’r Gemau. Oni ddylai’r arian yna redeg i bob rhan o’r Deyrnas – neu efe i’r pant unwaith yn rhagor y gwelwn y dŵr yn rhedeg?
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.