19th September 2008
Colofn Golwg
Mae’r economi Gymreig yn teimlo fel ei bod hi’n “mynd nôl i’r dyfodol” gyda’r newyddion bod yr hir-arfaethedig Glofa Fawr ym Margam ar fin agor. Yn fwy arwyddocaol fyth mae cwmni drilio o Awstralia wedi datgan eu bod nhw wedi darganfod digon o nwy yng ngwythiennau yr hen faes glo i gyflenwi holl anghenion ynni Cymru am gan mlynedd.
Ar adeg o ansicrwydd llethol am ddiogelwch ein cyflenwad ynni mae hyn yn newyddion amserol iawn. Ac wrth gwrs, y codiad ym mhris tanwydd ffosil ar y farchnad fyd-eang, wedi ei yrru gan dwf aruthrol Tseina, sydd wrth wraidd yr atgyfodiad Lasurusaidd yn y diwydiant glo Cymreig. Mae’r potensial am gyflogaeth mewn ardaloedd sydd dal heb ddod dros fachlud y diwydiannau trymion yn yr 80au yn sylweddol.
Ac eto erys rhai pryderon. Am wlad fach mae Cymru – trwy generadu’r glo ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol – wedi cyfrannu mwy na’i siâr yn barod at y gyflafan hinsawdd sydd yn ein wynebu. Ydyn ni nawr am roi rhagor o halen ar y briw? Mae yna rym i’r ddadl fel y cydnabu’r rheithgor yn yr achos difrod troseddol wedi’r protestiadau yng ngorsaf ynni glo Kingsnorth yn ddiweddar. Ac eto os ydi Tseina yn adeiladu un gorsaf generadu glo yr wythnos ar gyfartaledd, onid y blaenoriaeth – tra wrth gwrs yn symud mor gyflym at ynni adnewyddol y gallwn ni – ydi ymchwilio mewn i dechnoleg dal a storio carbon gall negydu’r all-yrannau o leiaf am gannoedd o flynyddoedd. Wrth wneud ein defnydd ni o lo yn garbon-niwtral gallwn ni wneud yr un peth ar eu cyfer nhw. Trueni nad yw’r Llywodraeth (Brydeinig) yn cymeryd y dechnoleg hon o ddifri. Tra’n gwario £2.8 biliwn y flwyddyn ar ddelio gyda gwastraff niwcliar, fydd dim yn cael ei wario eleni ar ddal a storio carbon.
Cwestiwn arall sy’n codi ydi’r budd economaidd ddaw i Gymru. Ychydig o fudd ddeilliodd o oes aur y diwydiant glo i’r bobl a fu yn gweithio ynddo, ac er bod gweithwyr-perchnogion y Twr wedi llwyddo i newid hynny, rhaid meddwl am yr effaith ehangach ar yr economi Gymreig. Onid ydi’r glo a’r nwy sydd o dan ein traed yn perthyn yn y lle cyntaf i bobl Cymru? Oni ddylai’r Cynulliad felly bwyso am Gronfa Glo a Nwy Cymreig, yn debyg i gronfeydd sofran Norwy a gwledydd y Gwlff, i gymeryd canran o’r elw a’i fuddsoddi yn y dyfodol pan ddaw y glo – a hynny’n derfynol – i ben?
One Response so far to “Colofn Golwg”
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.
John Tyler says:
September 21st, 2008 at 6:44 am
And again I must trawl other blogs to find a translation, only 20% of the Welsh speak Welsh, and learning is hard when natural ability is wanting.