Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

December 2008
M T W T F S S
« Nov    
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

31st July 2008

Colofn Golwg

Mae yna ddadl bosibl o gael dim ond un arweinydd i blaid wleidyddol – yn achos fy mhlaid i y Dirprwy (a darpar) Brif Weinidog.  Ond mae yna beryglon mewn rhoi eich wyau i gyd mewn un fasged.  Un o’r prif resymau am lwyddianau Llafur Newydd oedd y bartneriaeth (a’r tensiwn) rhwng Blair a Brown.  Mae Brown yn ddi-werth ar ei ben ei hun.
 

Mae pleidiau gwleidyddol angen dau fath o arweinydd.  Mae’r ex dominus yn cyfathrebu gyda’r bobl yn gyffredinol, gan ymestyn cefnogaeth y Blaid tu allan i’w cadarnleoedd.  I wneud hynny mae’n rhaid cadw y bleidlais graidd yn hapus a dyna lle mae rôl yr in dominus yn allweddol.  Blair wnaeth ymestyn tiriogaeth wleidyddol ar draws Lloegr-ganol, yn llwyddo i gynnwys  papurau Rupert Murdoch, toreth o filiynwyr a chwpl o gyn-Aelodau Seneddol Toriaidd yn ei babell fawr ef.. 

 

Ond pe na bai Gordon Brown wedi chwarae rôl yr indominus (’yr ydym ar ein gorau pan fyddwn Lafur’) yn ei ffordd ddiffuant, ddifrifol a John Prescott wedi cyflawni’r un dasg mewn ffordd llai deallusol, mwy comig, fyddai Prosiect Llafur Newydd byth wedi llwyddo.  Yn yr un modd mae llwyddiant Ieuan Wyn Jones i brofi wrth relyw pobl Cymru nad plaid y cyrion eithafol mo cenedlaetholwyr Cymreig wedi’r cwbl, ond mudiad sydd yn medru llywodraethu dros Gymru gyfan, yn llwyddiannus, yn dawel fedrus yn dibynnu ar allu’r Blaid i osgoi siom a dadrithiad ymhlith rhengoedd ei chefnogwyr traddodiadol. 

 

Nid ar chwarae bach mae llwyddo i wneud hyn.  Yn hanner gyntaf y ddegawd hon mi brofodd y Blaid cyfres o siomedigaethau a bygythiadau yn ei chadarnleoedd – colli Môn, colli Ceredigion, twf Cymuned fel adwaith i ‘fethiant’ y Blaid i wynebu argyfwng ieithyddol y Fro.  Yn y cyd-destun hwn mi lwyddodd Dafydd Iwan – fel ffigwr eiconig yn dod o gefndir o genedlaetholdeb traddodiadol - i sefydlogi’r cwch.  Hyn alluogodd ni  i fynd ati i foderneiddio’r Blaid – yn fwayf cofiadwy wrth newid y logo i’r pabi, prosiect yr oedd Dafydd yn frwd iawn o’i blaid.
 

Mae twf y Blaid yng ngweddil Cymru yn parhau – ond yn y gogledd-orllewin yr ydym wedi gorffen y ddegawd i ryw raddau lle ddechreuon ni, gyda phryder ymhlith ein cefnogwyr traddodiadol am ffyddlondeb y Blaid i’w hegywddorion creiddiol. Y cynllun ysgolion oedd y sbardun ond mae hyn efallai yn symptom o rywbeth mwy.   Elfyn , yn fy marn i, ydy’r indominus sydd a’r hygrededd sydd ei angen ar gyfer y cyfnod nesaf.  Anfaddeuol fyddai ennill tir eto yng ngweddill Cymru, tra’n colli yn yr iard gefn.

One Response so far to “Colofn Golwg”

  1. Moelwyn says:
    August 4th, 2008 at 10:55 am

    Rhaid datgan fy siom gyda dy erthygl yn Golwg ynglyn a’r Llywyddiaeth. I ddechrau mae’r Blaid yn dal i dyfu yng Ngwynedd. Yr hyn ddigwyddodd eleni oedd i Lais Gwynedd asgell dde gwrth Blaid gael ei sefydlu gyda un bwriad o wneud drwg i’r Blaid. Llwyddodd i ddenu pleidleisiau wrth Blaid ar draws y sir, ond mae’n bwysig cofio fod y Blaid yn dal wedi llwyddo i gael 42% o’r bleidlais yma. Nid pleidlais yn erbyn cae Ysgolion oedd y bleidlais, ac nid oedd miloedd neu hyd yn oed canoedd o Bleidwyr wedi pleidleisio iddynt. Mewn pedwar ardal yn unig lle’r oedd yr ysgol dan fygythiad collodd y Blaid ei seddi. Er nad wyf yn Gynghorydd Sir ‘roeddwn i fel miloedd o Bleidwyr eraill yn cefnogi’r Cynllun ad-drefnu Ysgolion, fel ffordd swynhwyrol o ddarparu addysg o’r safon uchaf posib, ac o ddiogelu ein cymunedau i’r dyfodol.

    Mae Dafydd Iwan wedi aberthu mwy dros yr ACHOS na unrhyw bleidiwr byw arall, ac yn anffodus mae’r etholiad yma yn cael ei gweld gan amryw fel rhywbeth Prydeinig iawn i’w wneud, sef cicio dyn pan mae ar y llawr. Gobeithio fy mod yn anghywir ond yn bendant nid wyf fi eisiau gweld y Blaid yn ymdrin a’i phobl fel hyn. Er fod gennyf bob parch i Elfyn mae’n rhaid i mi ddatgan yn glir Dal ati Dafydd, mae Cymru dy angen

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.