16th November 2007
Colofn Golwg
Mae angen gwell gwybodaeth a thrafod gonest ynghylch y cwestiwn o weithwyr tramor os nad yw’r Chwith i ildio tir i’r Dde eithafol. Y gwir plaen yw, fel gwelon ni gyda ymddiheuriad Peter Hain am ein camarwain ni yn ddiweddar, nad oes gan Llywodraeth San Steffan y syniad lleia faint sydd yma. Ers 2004 mae o leiaf ugain gwaith yn fwy wedi dod o wledydd y Dwyrain na’r hyn oedden nhw yn disgwyl. Ac mae hyd yn oed y ffigurau diweddara gan y Llywodraeth yn fwy o ddyfaliad nag ystadegyn cadarn.
Mae yna dan-gyfri ar lefel leol hefyd. Dim ond pum deg o bobl dramor symudodd i Ferthyr Tudful yn 2005/06 yn ôl y Llywodraeth. Ac eto mi oedd 326 o bobl dramor newydd wedi cofrestru gyda meddyg ym Merthyr yn yr un flwyddyn. Ond y ffigurau swyddogol gwallus yma sydd yn penderfynu faint o arian mae Shir Gar yn cael ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae Llywodraeth y Cynuliad yn gorfod dibynnu yn y cyswllt yma ar Lywodraeth Prydain sydd yn seilio ei asesiad ar sampl sydd ond yn cynnwys tua pedair mil o fewnfudwyr ar draws Prydain. Effaith hyn ydy gwasgfa gynyddol ar ysgolion, gwasanethau cymdeithasol ac ysbytai lleol.
Ond mae’r effaith fwyaf ar weithwyr lleol. Meddai’r llywodraeth: ‘does dim rheswm ddamcaniaethol pam ddylai mewnfudo gostwng cyflogau cynhenid na chynyddu diweithdra cynhenid’ Dyw hwn ddim yn dal dwr. Yn ôl ffigurau y Llywodraeth eu hunain mae gweithwyr tramor ers 1998 wedi ychwanegu 3.8% at y boblogaeth ond dim ond 3.1% at GDP: hynny yw maen nhw wedi achosi gostyngiad o 0.7% mewn GDP y pen.
Oherwydd eu bod nhw yn gweithio am lai o gyflog, fe broffwydodd astudiaeth i’r Swyddfa Gartref ym 2003 y byddai rhwng 25 a 60 o weithwyr lleol yn colli eu swyddi ar gyfer pob can fewnfudwr. Dyna yn union sydd wedi digwydd: yn y ddwy flynedd ers Gwanwyn 2005 mae 540,000 o dramorwyr wedi cymryd swyddi tra bod 270,000 o bobl leol wedi colli eu swyddi nhw. Yn ôl astudiaeth ddiweddar i’r OECD mae’r effaith yma ar ddiweithdra lleol yn medru para rhwng pump i ddeg mlynedd. Ond pwy sydd yn dioddef? Mae tystiolaeth o America bod mewnfudo o Mexico wedi cael effaith andwyol ar weithwyr di-sgil, yn arbennig ymhlith pobl du. Mewn unrhyw fewnfudiad torfol – y cefnog i gefn gwlad neu llafur rhad yn Llanelli – y bobl ar y gwaelod sydd yn colli mas. Mae rhaid i rywun rhywle siarad ar eu rhan
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.