Archive for February 12th, 2009
12th February 2009
Y Gymraeg am droi’n bwnc dadlau eto
Ers eu lambastio gan yr Adroddiad King am eu diffyg diddordeb a dealltwriaeth o’r byd tu allan i Lundain, mae gwasanaeth newyddion y BBC yn ceisio ei gorau glas i wneud yn iawn am eu diffygion cynt. Ond mae nhw dal yn gweld Cymru trwy delisgôp Llundeining: ‘dadleuol’, ‘drudfawr’ a ’sgepticaidd’ oedd yr ansoddeiriau oedd yn neidio allan o’r penawde ar y rhaglen ‘Today’ ar ol i’r golygydd gwasgu darn mwy cytbwys Wyre Davies i siap oedd yn cydymffurfio yn fwy taclus i ragfarnmau diswyliedig eu gwrandawyr yn Siroedd y Ddeheudir Seisnig.
Roedd yr ymosodiadau a’r dychan ymostyngol i’w disgwyl gan y Telegraph. Ac mae David Davies, chwarae teg iddo fe, o leiaf wedi bod yn gyson ei wrthwynebiad i hawliau ieithyddol. Yn fwy siomedig oedd gwrthwynebiad Ann Beynon o BT. Ie, dylai bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg y mae nhw’n eu cynnig yn barod. Ond ymhlyg yn y gosodiad y mae’r awgrym bod hawl cwmni trawswladol i beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg yn fwy pwysig na hawl y dinesydd mewn gwlad ddwyieithog i’w derbyn. All neb wasanaethu dau feistr, ond does dim byd yn dweud, Ann, bod rhaid i ni gyd ildio bob tro i Famon.
Yn fwy siomedig fyth oedd ymateb Rhodri Williams nad oedd biliau dwyieithog yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i’r iaith Gymraeg. Fel cyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nid ddylai bod rhaid ei atgoffa o ymgyrch hir y teulu Beasley am orchymyn treth Cymraeg a gostiodd mor uchel iddyn nhw. Oedd hynny yn ofer?. Onid yw pwer symbolaidd arwyddion a thestun ac argaeledd gwasanaethau yn tanlinellu y neges bwysicaf un: bod y Gymraeg yn gydradd ac yn rhan annatod o’r Gymru gyfoes. Ac ie mi fydd dyfodol a lle priodol y Gymraeg yn troi unwaith eto yn bwnc dadlau. Ond mewn mis lle mae un gwleidydd Llafur wedi cyfaddef ei fod yn casau Cymry Cymraeg ac un arall wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd am lanhau ethnig trwy hyrwyddo ysgolion Cymraeg mae’n amlwg nad yw’r consensws wedi ymdreiddio i bob man, beth bynnag. Os oes yna ragfarnau ieithyddol allan yno mae’n well gen i weld pobl yn eu mynegi yn agored fel bod modd eu herio a’u gwrthbrofi.
Yn y pendraw arwydd o hyder cenedlaethol yw mynnu dwyieithrwydd ymhob agwedd o fywyd. Nid damwain yw hi taw’r tair gwlad sydd a’r gofynion ieithyddol cryfaf ar gwmniau preifat – Catalunya, Quebec a Fflandrys – ydy’r rhai mwyaf llwyddiannus yn economaidd ymhlith cymunedau ieithoedd llai. Hyder yn eich hunan – eich iaith, eich hanes, eich hunaniaeth – ydy’r cam cyntaf i’r hyder personol sydd yn esgor ar lwyddiant economiadd. I fynnu dyfodol, mae rhaid i ni yn gyntaf fynnu parch.