Archive for September 11th, 2008
11th September 2008
Colofn Golwg
A hithau dal ond yn fis Medi mae rhaid dweud yn barod bod 2008 wedi bod yn flwyddyn y ddraig. Y gamp lawn, Calzaghe, y Gemau Olympaidd gorau i Gymru erioed, a Chymry yn ennill Big Brother (da iawn, Rachel) a Mr Gay UK (da iawn, Dino) am y tro cyntaf. O Duffy ac Y Peth i Terfel ac Only Men Allowed, Cymru yw gwlad y gan go iawn. Charlotte a Gavin yw’r Posh ‘n’Becks newydd a ‘what’s ocurring?’ mewn acen Barri yw catchphrase trendi y flwyddyn. Fel fersiwn wedi ei ddiweddaru o Wythnos yng Nghymru Fydd mae Torchwood wedi profi bod gan Gymru nid yn unig orffennol cyfoethog, ond dyfodol hefyd. Ac ar ol i Madonna agor ei thaith fyd-eang yn Stadiwm y Mileniwm, dyw’r syniad o endydau o fydoedd eraill yn y bydysawd yn dewis Caerdydd fel y lle i gyflwyno eu hunain i ddynolryw ddim yn swnio cweit mor od wedi’r cwbl.
Mae’n cwl i fod yn Gymro neu Gymraes eto. Mae Cymru – gwlad sydd ag ansicrwydd wedi ei saernio mewn i’w gennynnau – yn dechrau canfod ei hyder. Mi ddylai hyn argoeli’n dda ar gyfer y refferenwm nesaf, pryd bynnag y daw hi.
Ac eto ym maes gwleidyddiaeth, er bod yna gymaint i ymfalchio ynddi yn Llywodraeth Cymru’n Un, dyw’r tsunami yma o hunan-hyder cenedlaethol newydd heb gyrraedd Bae Caerdydd. Go brin, wrth gwrs, y gallwn ddisgwyl arweiniad o’r Blaid Lafur. Mae’r rhestr o olynwyr posib i Rhodri Morgan mor wan mae hyd yn oed Peter Hain yn cael ei awgrymu fel rhyw fath o Alun Michael rhif dau. Pryd y gwnawn nhw ddysgu tybed?
O le ddaw ein hachubiaeth felly? Dwi ddim yn hyderus mai Kirsty Williams yw’r Obama Cymreig beth bynnag yw barn Mick Bates. Ac i’r Toriaid, carreg llam yw’r Cynulliad yn unig ar gyfer coridorau mwy deniadol yn San Steaffan. Nid propaganda felly yw dweud mai dim ond y Blaid sydd a’r potensial i gynnig i’r Gymru newydd y wleidyddiaeth newydd mae’n haeddu. A ninnau wedi cwblhau ein blwyddyn prentisiaeth fel plaid llywodraethu, nawr yw’r amser i ni ddechrau ymbaratoi ar gyfer y brif swydd. Yn lle edrych yn eiddigeddus i’r Alban, nawr yw’r amser i ni ddechrau efelychu eu llwyddiant hwythau. Ac os daw na is-etholiad yng Nghastell Nedd – a Gwenda wedi ei dyrchafu yn Farwnes G-C-G - mi fyddai ei hennill hi yr un mor ddylanwadol a Chaerfyrddin dwy-a-deugain o flynyddoedd yn ol.