Archive for August 6th, 2008
6th August 2008
Colofn Golwg
Dwi mewn lleiafrif efallai o fewn fy mhlaid fy hun ar hyn, ond ychydig iawn o ddagrau fyddai o’m rhan i pe cleddir swydd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymreig mewn newidiad Cabinet yr haf hwn. Pan y’i grewyd wedi blynyddoedd o ymdrechu gan y cawr o Rydaman, Jim Griffiths, mi oedd yn symbol o hunaniaeth wleidyddol y genedl Gymreig. Bellach, fel dwi wedi dadlau o’r blaen yn y golofn hon, mae’n symbol o’n gorffennol cyn-ddatganoli, cyn-ddemocrataidd.
Mae parhad y swydd yn bwysig i Unolaethwyr pen-galed o fewn y Blaid Lafur Gymreig am amryw o resymau. Yn y lle cyntaf mae’n cynnal y myth bod gan Gymru ddylanwad o gwmpas y Ford Cabinet ac mai trwy gyfaddawdu a negodi o fewn y Gyfundrefn Brydeinig sydd orau i Gymru nid torri ein cwys ein hunain. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw llais San Steffan yng Nghymru nid llais Cymru o fewn San Steffan fu y swydd hon am y rhan fwyaf o’r deugain mlynedd ddiwethaf - peirianwaith i weinyddu a chyfathrebu nid datblygu polisi yn annibynnol i Gymru ydy’r Ty Gwydir sydd yn gartref i’r gweinidogion Cymru-oddi-cartref yma.
Mae’r ail reswm am y frwdfrydedd dros y status quo yn ymwneud yn fwy a’r frwydr cartref rhnwg y Blaid Lafur yng Nghymru a’r Blaid Lafur Gymreig (nid gwahaniaeth semantig yn ynig sydd yma). Ta waeth am yr holl siarad am bartneriaeth (er bod y berthynas rhwng y bythol fonheddig Paul Murphy a Rhodri Morgan tipyn yn well nag y buodd hi yn ystod teyrnasiad Peter Hain) mae bodolaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn creu ail ganolbwynt amgen ar gyfer grym gwleidyddol yng Nghymru sydd yn fêl ar fysedd y rhai hynny sydd am danselio neu o leiaf docio grym eu cymrodyr yn y Cynulliad. Mae’r ffaith bod ganddyn nhw aelod ex officio o fewn Cabinet yn rhoi i Aelodau Seneddol Llafur o Gymru statws nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn haeddu.
Ond efallai gwir arwyddocâd creu un Swydd Cabinet ar draws y Cenhedloedd Celtaidd a’i lenwi, mae’n debyg, gyda Des Browne, yr Ysgrifennydd Albanaidd ac Amddiffyn presennol neu Jim Murphy, yr is-weinidog Ewropeaidd o Gaeredin, fydd yr hyn bydd e’n dweud am y genhedlaeth yma o Lafurwyr. Dyma fydd y Cabinet Llafur cyntaf ers 1929 i fod heb Aelod Seneddol o Gymru oddi fewn iddo. Lle mae Jim Griffiths, Aneurin Bevan, Roy Jenkins, John Morris, Jim Callaghan, Cledwyn Hughes yr oes hon? Yn y Cynulliad, efallai, ond yn sicr ddim yn y Senedd ymhongar hon.