Archive for June 5th, 2008
5th June 2008
Colofn Golwg
Ar un gwedd, mae’n drueni ein bod bellach yn gorfod derbyn na fydd Hillary Rodham Clinton yn cael cyfle i hawlio´r wobr o fod y fenyw gyntaf i gael ei hethol i`r Ty Gwyn, a`r cyntaf i fod o dras Cymreig ers Calvin Coolidge. Serch hynny, mae hefyd yn anodd iawn i beidio a rhannu`r brwdfrydedd sydd wedi ei ymagor gan ymgeisyddiaeth Barack Obama.
Pedwar deg mlynedd yn ol, ‘roedd 1968 yn flwyddyn fawr hefyd – gwanwyn o optimistaeth ar strydoedd Paris a Prag a drodd yn drasiedi, gyda delfrydwyr yn cael eu lladd (yn llythrennol felly) yn y Dwyrain a´r Gorllewin. Gyda rhyfel amhoblogaidd yn cael ei ymladd yn y cefndir a hil yn bwnc canolog, mae`r tebygrwydd rhwng Haf 1968 a heddiw yn glir. O leiaf nawr mae gan Obama warchodwyr diogelwch – newid a gyflwynwyd yn unig yn sgil saethu Robert F. Kennedy.
Fe drodd Confensiwn Democrataidd y flwyddyn honno yn un o´r rhai mwyaf ymgecrus erioed – tan yr un eleni, efallai. A dyna sydd yn fy mhoeni fi i feddwl mai 1968 unwaith eto nid 1960 fydd eleni. Pedwar deg mlynyedd yn ol fe ennillodd Richard Milhouse Nixon yr arlywyddiaeth ac fe aed ati i ddwyshau ymdrechion America yn Fietnam. Mae John McCain am ddilyn yr un polisi nawr yn Irac – a hefyd mae`n debyg yn Iran.
Mae McCain wedi beirniadu Obama yn ddiweddar am ei barodrwydd i siarad gydag arweinwyr Cuba. Mae McCain am barhau gyda`r sanctsiymau sydd, dros yr hanner canrif diwethaf, wedi ceisio lladd economi yr ynys. Yn eironig, bu McCain o blaid normaleiddio’r berthynas gyda’i gyn-arteithwyr yn Fietnam sydd fel Ciwba dal yn wlad Gomiwnyddol. Hwyrach bod gyda hyn fwy i wneud a phleidleisiau yn Florida nag unrhyw egwyddor.
Mae yna bethau i`w canmol yng Nghiwba – y systemau iechyd ac addysg er enghraifft – a phethau i`w beirniadu fel y cyfyngiadau ar deithio. Nawr, a Ciwba wedi arwyddo datganiad iawnderau dynol y Cenhedloedd Unedig mae yna symudiadau pwysig yn cael eu gwneud i’r cyfeiriad iawn, ac mae camgymerdiau mawr y gorffennol - megis gormes yn erbyn hoywon er enghraifft – wedi eu cydnabod yn bersonol gan Fidel Castro. A fyddai Tseina wedi newid er gwell pe na bae Nixon wedi mynd i Beijing? A faint fwy o Americanwyr fasai wedi eu lladd yn ofer heb daith dadleuol Henry Kissinger i Hanoi?
Mae yna genhedlaeth newydd yn haeddu llais, gobaith ac arweiniad – yn Havana, yn America a’r byd. Er mwyn dyn, gobeithio na leddir y freuddwyd y tro hwn. Mae´r goblygiadau yn frawychus.