Archive for May 29th, 2008
29th May 2008
Colofn Golwg
Ar gampws pencadlys cwmni Google yng Nghalifornia mae yna fodel o tyrranosaurus rex i atgoffa pawb o’r hyn ddigwyddodd i`r deinosoriaid. Tra bod Google yn tyfu`n ddyddiol mae yna restr o gwmniau, neu hyd yn oed sectorau cyfan sydd yn brysur troedio´r llwybr o ddominyddiaeth i ddifodiad.
Mae´r rhestr hon, yn ol Google, yn cynnwys papurau newydd. Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae 80% o´r bobl a anwyd yn y 20au yn darllen papur newydd o gymharu gydag 20% o’r rhai a gafodd eu geni yn yr 80au. Ar y raddfa yma o ddirywiad fydd yna ddim papurau newydd o gwbwl yn cael eu gwerthu ymhen ychydig dros chwarter canrif.
Dau reswm sydd am argyfwng ariannol papurau newydd. Mae llai o bobl yn eu prynu yn bennaf oherwydd bod papurau newydd wedi colli eu monopoli ar dorri newyddion i´r cyfryngau torfol yn gyntaf ac i´r We, yn arbennig yn sgil dyfodiad Google News. Yn ail, mae nhw wedi colli eu marchnad hysbysebu. Mae yna nifer cynyddol o bapurau newydd sydd yn ennill eu helw yn fwy trwy’r we na’i fersiynau inc. Yn Norwy, er enghraifft, mae cyfradd elw fersiwn ar-lein y papur mwyaf boblogaidd yn 45%.
Mae`r dyhead i greu papur newydd yn un dealladwy yn y cyd-destun Cymreig oherwydd y diffyg darpariaeth yn Gymraeg a Saesneg o gymharu a´r Alban. Ond yno hefyd mae`r sector mewn argyfwng, Mae gwerthiant yr Herald wedi gostwng 46% mewn ugain mlynedd ac mae record y Scotsman bron cynddrwg. Yn ol yr ysgolhaig Americanaidd Philip Meyer, ar dueddiadau presennol, fe fydd y ddau bapur yma wedi diflannu erbyn 2018.
Mae penderfyniad awdurdodau lleol yr Alban a’r Llywodraeth SNP i hysbysebu ar lein yn unig o hyn ymlaen yn hoelen anferthol – gwerth tua £47 miliwn y flwyddyn – yn arch newyddiaduraeth print Albanaidd. Fe fydd rhaid i´r sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn eu hesiampl tra`n cydnabod yr angen i gefnogi newyddiaduraeth Cymreig.
Yng nghyd-destun penodol newyddiaduraeth Cymraeg rhaid cydnabod bod i bob cyfnod gyfrwng allweddol sydd yn erfyn normaleiddio – Beibl William Morgan, gweisg y ganrif cyn-ddiwethaf, radio a theledu a nawr y We. Dyw cefnogwyr y Byd na cholofnwyr Barn a Planet na’r rhan fwyaf o intelligentsia Aberystwyth ddim yn cytuno yn ol pob son. Ond mae`r byd yn newid, ac mae rhaid i ni gofleidio`r newid neu ddarganfod ein hunain, fel beirdd y Canol Oesoedd ar ol Brad yr Uchelwyr (oedd yn frad go iawn, gyda llaw) yn bobl a chyfrwng ond heb gynulleidfa, yn ddeinosoriaid deallusol.