Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

March 2008
M T W T F S S
« Feb   Apr »
 12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for March 20th, 2008

20th March 2008

Colofn Golwg

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y Blaid ‘gomisiwn ar degwch’.  Pwrpas comisiynau ydi datblygu polisiau manwl. Ond mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig arall, sef dangos yn glir pa werthoedd mae mudiad yn ei ystyried yn sylfaen i’w wleidyddiaeth.  Yn achos y Blaid mae’r syniad o degwch – o chware teg – wedi bod yn eithaf canolog o’r cychwyn. 
I ryw raddau mae hyn yn adlewyrchu agweddau cymdeithasol Cymreig.  Fel y dywedodd Tom Ellis dros ganrif yn ôl wrth drafod y cysyniad newydd, chwyldroadol, bryd hynny, o sosialaeth – term a fathwyd gan y Cymro, Robert Owen y Drenewydd – gwlad ‘cyfraith, cyfar, cyfnawdd, cymorthfa a chymanfaoedd’ yw Cymru. Yng Nghymraeg heddiw, yr hyn a olygai Tom Ellis oedd ‘cydaredig, cydamddiffyn, cynorthwyo ein gilydd a… cymanfaoedd!’. Pan ffurfiwyd mudiad newydd egniol yn Haf 2001 i herio prif ffrwd cenedlaetholdeb Gymreig y Blaid a Chymdeithas yr Iaith, pa enw arall a ellir fod wedi ei roi arno ond ‘Cymuned’.  Hyd yn oed, wrth ymrannu, mae’r mudiad cenedlaethol yn dueddol o ogwyddo i’r chwith-o’r-canol.  
Pobl empathig ydi’r Cymry, a gofal am ein gilydd  wedi ei saernïo yn ddwfn o fewn i’r psyche cenedlaethol.  Mae credu y dylai cymdeithas warchod y gwan, yr anghenus a’r tlawd yn rhan o’n Rhodd Mam moesegol, ynghyd a’r gred sylfaenol y dylai pawb feddu ar y cyfle i wireddu eu llawn botensial. 
Nid hap a damwain ydi’r ffaith mai Cymry a greodd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol na’r Sustem Yswiriant Cenedlethol. Gellir ywchanegu at y rhestr y Pensiwn a’r Ysgol Gyfun gyntaf, a sefydlwyd ar Ynys Môn. 
Does dim rhaid arddel yr enw sosialydd i gredu mewn tegwch, wrth gwrs:  nid y label sy’n bwysig ond cynnwys ein gwerthoedd. Ac yn achos y mudiad cenedlaethol mae hynny wedi golygu cred mewn democratiaeth economaidd a chyfiawnder cymdeithasol.  Yn greiddiol i’n gwleidyddiaeth ni ydi’r gred mai cronni cyfoeth a grym gwleidyddol mewn ychydig ddwylo yw gwraidd y rhan fwayf o’n problemau. Mi fyddai tor-cyfraith, salwch a diffyg cyrhaeddiant addysgiadol i gyd yn llai pe baen ni yn fwy cyfartal fel cymdeithas. 
Roedd Michael Collins, yn achos Iwerddon, wastad wedi dadlau bod cenedlaetholdeb heb iddi ffocws ar wella amodau byw trwch y boblogaeth yn gendedlaetholdeb haniaethol, wag.  Felly hefyd yng Nghymru.  Mae’r frwydr genedlaethol nid yn unig i’w chanfod ym mrwydr yr iaith – ond hefyd yn y frwydr dros gyflog byw, dros degwch trethiannol, dros yr hawl i unrhyw riant fedru anfon eu plant i brifysgol, ac yn erbyn y Degwm, gynt.  Non-doms y Ddinas ydi landlordiad absennol y Gymru gyfoes, efallai, ond mae’r werin yn dal i chwilio am ei gweriniaeth.