Archive for February 7th, 2008
7th February 2008
Colofn Golwg
Mae rhyw fath o gymhlethod hunaniaeth wedi nodweddu’r BBC yng Nghymru ers y cychwyn: ‘rhanbarth cenedlaethol’ – ieithwedd sy’n atgoffa dyn o’r Undeb Sofietaidd - oedd Cymru o fewn corfforaeth Brydeining o1953 tan ddyfodiad datganoli. Mae’r BBC, fel darlledwr dwyieithog, yn anorfod yn cyflogi nifer fawr o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny, yng ngwydd rhai, yn ddigon i’w condemndio nhw a’u cyflogwr fel nyth o genedlaetholwyr. Yn eu hawydd i wrth-brofi hyn, mae golygyddion y BBC dros y blynyddoedd wedi mynd allan o’u ffordd i ddangos eu ‘gwrth-rychedd’. I wneud yn iawn am un darllediad fach gan Saunders Lewis, fe gafwyd chwarter canrif o Vincent Kane a’i lygaid yn pefrio, wrth gwestiynnu un ‘eithafwr iaith’ ar ôl y llall.
Y llynedd, mewn ymyrraeth ddadleuol wedi ei amseru yng nghanol wythnos cynhadleddau cadarnhau cytundeb Cymru’n Un, fe gyhoeddodd y BBC ganlyniadau arolwg barn oedd yn ceisio dangos bod mwyafrif pobl Cymru yn erbyn deddf iaith newydd. Y sawl sy’n llunio’r cwestiwn, wrth gwrs, sy’n llywio’r ateb. Gofynnwyd i bobl a oedden nhw o blaid ‘gorfodi’ y sector preifat i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Pe bae’r BBC wedi dewis gofyn i bobl a oedden nhw yn credu mewn hawliau iaith cyfartal, byddai’r ateb wedi bod yn bur gwahanol, mae’n siwr. Fel crybwyllwyd ar y pryd gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru, mi oedd hyn yn enghraifft clasurol o allu a thuedd y cyfryngau nid i adrodd y newyddion, nag adlewyrchu barn, ond i greu stori, i setio agenda a fframio cwestiwn yn ôl eu dehongliad nhw o’r hyn oedd yn wirioneddol bwysig.
A dyma ni, unwaith eto yr wythnos hon yn clywed y ‘newyddion’ mai dim ond 1% o Siaradwyr Cymraeg sydd yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y cwmnïau mawr. Nid stori newyddion oedd hon – ond naratif, yn cynnwys elfen ffeithiol ond yn cario neges fel is-destun: dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn ‘haeddu’ hawliau newydd.
Tra bod y BBC ym Mhrydain yn colli ei le canolog ym mywyd y genedl gyda dyfodiad y byd aml-gyfrwng, mae ganddi ddylanwad yng Nghymru sydd yn gatholig-ganoloesig ei led. Ar fater Cymru a’r Gymraeg, y BBC sy’n darparu deunydd crai beunyddiol ein trafodaeth gyhoeddus, a hynny yn y ddwy iaith. Os na all hi wneud hynny yn ddi-duedd, efallai y dylid dadorseddu monopli meddyliol arch-esgobion Llandaf. Mae ITV Cymru wedi ennill cytundeb i ddelifro gwasanaeth tywydd i S4C. Oni fyddai’n chwa o awyr iach iddyn nhw gynhyrchu’r newyddion hefyd?