28th February 2008
Colofn Golwg
Llywodraeth y Cynulliad ydi’r unig un ym Mhrydain â chyfrifoldeb statudol i hyrwyddo datblygu cynaladwy. Mae yn eironig felly bod ganddi gartref ar lan un o’r datblygiadau mwyaf anghynalwadwy ac annemocrataidd y chwartef canrif diwethaf: Morglawdd Bae Caerdydd. ‘Roedd fflatiau mwd aber yr afon Taf yn edrych yn hyll i’r Ysgrifennydd Gwladol Nick Edwards. Ond nid felly i’r wyth mil o adar mudo (gydag enwau rhyfeddol fel y pibydd coesgoch a hwyaden yr eithin) a oedd yn heidio yno. Dyma’r Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol (SSSI) cyntaf mewn hanes i gael ei ddinistrio – ac hynny yn erbyn gwrthwynebiad lleol, diolch i lywodraeth-drwy-gwango yr oes Dorïaidd.
Crewyd gwarchodfa natur ar wastadedau Gwent i ‘wneud yn iawn’ am y difrod. Cyd-ddigwyddiad creulon ydi hi bod y Llywodraeth wedi etifeddu ymrwymiad i adeiladu traffordd yno. Mae dyfr-ffosydd y gwastadeddau wedi bodoli ers bron i 1800 o flynyddoedd ac mae nhw’n gartefi pwysig i ddyfrgwn a llygod pengron. Mae’r gwastadeddau eu hunain yn rhan, wrth gwrs, o ardal ehangach Môr Hafren sydd yn rhanbarth o bwys ecolegol rhyngwladol cydnabyddedig. Mae’r ‘mega-morglwadd’ sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Llundain yn destun pryder mawr i naturiaethwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol.
Mae’r holl syniad yn nodweddiadol o hen feddylfryd dynion mewn cotiau labordy a siwtiau pinstripe breision mas o’r 50au – y math o bobl oedd yn gwirioni ar ynni niwclear fel ateb i’n holl broblemau. Mae creu prosiectau anferth fel hyn yn bell oddi wrth y defnyddiwr ac yn wastraffus oherwydd bod cymaint o’r ynni yn cael ei golli wrth ei drosglwyddo i’r grid. Ond pam ddylai amgylchedd Cymru, gollodd cymaint o ganlyniad i garbon yn y lle cyntaf, ac sydd yn dal i ddioddef glo brig, aberthu ei hunan unwaith eto mewn ymateb simplistaidd o un-ddimensiynol at greisus yr hinsawdd sydd wedi ei greu yn ei sgil? Gwell o lawer fyddai cefnogi cadwraeth ynni a systemau datganoledig o generadu trydan – yr ateb mwyaf cymhleth ond hefyd y mwyaf radical.
Cariad at bobl Cymru, ei hiaith a’i diwylliant, a thir a daear ydi tri pen cenedlaetholdeb Cymreig. Gwyrddni’r Blaid a’i chrêd mewn datganoli, yn sicr, sydd yn gwahaniaethu’r mudiad cenedlaethol fwyaf oddi wrth dechnocratiaeth gwladwriaethol Llafur. Thoreau a Tolstoy, yr athronwyr gwth-fateryddol, yw tarddiad ein traddodiad ni. Ni lwyddwn i ennill pob brwydr, ond, weithiau, y brwydrau yr ydym yn eu colli sydd yn ein nodweddu fwyaf: cofiwch Dryweryn.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
The Welsh Assembly Government is the only government in Britain with a statutory obligation to promote sustainable development. It is, therefore, ironic that the WAG’s home is on the banks of one of the least democratic and the least sustainable development of the past quarter of a century: the Cardiff Bay Barrage. The mud flats on the banks of the Taff river looked ugly to the Secretary of State Nick Edwards. Not so, however, to the eight thousand migrating birds (with amazing names, such as the redshank and the shellduck) which used to flock there. This is the first Site of Special Scientific Interest (SSSI) in history to be destroyed – and that in light of local objections, thanks to the government-through-quango of the Tory age.
A nature reserve was created in Gwent to ‘make up’ for this damage. Its a cruel coincidence that the Government has inherited a commitment to build a motorway there. The watercourses of Gwent have been in existence for nearly 1800 years and they are important homes to otters and other animals. This area is of couse part of the wider area of the Severn Estuary which is an area of great international ecological importance. The ‘mega-barrage’ which is being promoted by the Government in London is of great concern to naturists and enviornmental campaigners.
The whole idea is typical of the old mentatlities of men in laboratry coats and pinstripe suits from the 1950s – the type of people who thought of nuclear power as the answer to all energy problems. Creating huge projects such as this one is far removed from the user and is wasteful because so much energy is lost when being transferred to the grid. Why should the Welsh enviornment, which lost so much because of carbon in the first place and which is still suffering outcrop coal, sacrifice itself once again for a one-dimensional response to the climate crisis which was created as a result of this? It would be much better tosupport the reserving of energy and devolved systems of generating electricity – the most difficult solution but also the most radical.
Love for the people of Wales, the language and culture, and land are the three parts of Welsh nationalism. Plaids commitment to green issues and her belief in devolutions are the main elements that differentiate Wales’ biggest nationalist movement from Labours state technocracy. Thoreau and Tolstoy, the anti-materialism philosophers, are the soruce of our nationalism. We will not win every battle, but, perhaps, we will be defined mostly by the battles we lose: remember Tryweryn.
22nd February 2008
Colofn Golwg
Yn etholiadau cyntaf Senedd Ewrop ym 1979, blwyddyn y Pla chwedl Gwyn Alff Williams, cafodd Mebyon Kernow bron 10% o’r bleidlais, dim ond ychydig yn llai na Phlaid Cymru. Dyma hefyd oedd y flwyddyn orau erioed i Union Democratique Bretagne gan iddynt ennill tua 6% o’r bleidlais mewn etholiadau lleol,tra chwalwyd Plaid Cymru ar gyngor bwrdesitref Merthyr Tudful.
Bu bron i Blaid Cymru chwalu’n gyfangwbl. Beirniadwyd yr arweinyddiaeth am gynghreirio â Llafur ac ymddiswyddodd Gwynfor fel Llywydd. Ond, rhywsut, fe oroesodd cenedlaetholdeb Cymreig. Fe dyfodd Plaid Cymru i fod yn ail blaid fwyaf Cymru. Aeddfedodd o fod yn blaid protest gwlad ar y cyrion i fod yn blaid sydd yn llywodraethu yn ein Senedd ein hunain. Hyn i gyd oherwydd nodwedd eithaf anarferol yn hanes Cymru: undod.
Cymharer hyn â Chernyw. Holltwyd y mudiad yno’n ddau yn fuan wedi ‘79. Syrthiodd y bleidlais i 2% ac arhosodd ar y lefel hynny tan yn gymharol ddiweddar. Yr un yw’r hanes trist o rannu ac ymgecru yn Llydaw, lle mae’r rhestr faith o bleidiau sydd wedi mynd a dod ers y saithdegau yn darllen fel deunydd ar gyfer y sgets enwog o’r ffilm, The Life of Brian, er yn yr achos yma, y Front de Liberation de La Bretagne sydd dan sylw nid Jiwdea. Ar wahan i’r FLB a’r UDB, mi oedd gyda chi yr MOB (yr holltodd UDB ohoni yn y chwedegau), Frankiz Breizh (a holltodd oddi wrth yr UDB yn yr wythdegau), yr ymgnawdoliad diweddaraf, le parti bretonne, ynghŷd â llu o grwpiau ymylol eraill megis Emgann, Adsav a’r MRB. Rhyngddynt oll, dim ond rhyw bedair mil o aelodau oedd ganddynt, gyda chanran fechan o ddim ond dau y cant o’r bleidlais a thair sedd yn unig yng nghynulliad Llydaw.
Nid trafod ariannu coleg ffederal a phapur dyddiol, neu ddeddf iaith newydd, cau ysgolion bach Llydaweg er mwyn agor rhai mwy neu ffedereiddo y mae cenedlaetholwyr Llydewig ar hyn o bryd ond yn hytrach trafod holl ddyfodol ysgolion Diwan yn wyneb gwrthwynebiad y Wladwriaeth Ffrengig. Dyma ateb felly i haeriad un cyfrannydd i drafodaeth maes-e yr wythnos diwethaf ar Blaid Cymru : “Byddwn ni ddim gwaeth pe na baech chi yma o gwbl”. Dwedwch hynny wrth y Cernywiaid a’r Llydawyr, gymrawd, neu’r Gwyddelod a gollodd ddeugain mlynedd oherwydd yr hollt rhwng Redmond a Parnell. Ond sut y gellir ymateb i ebychiad ‘Obi Wan’ ar faes-e - “Tyrd yn ôl, John Redwood” - neu ‘Lleucu Roberts’ yn galw arweinydd Plaid Cymru mewn Eingl-Sacsoneg coeth yn “****”?
Os ydi’r mudiad cenedlaethol yn ymrannu, Cymru i gyd fydd ar ei cholled, nid dim ond y Blaid sydd yn arddel ei henw. Divide et impera, fel dywedodd rhywun rhyw dro. Heb undod, heb ddim.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
In the first European Parliament elections of 1979, the year of the plague accordig to Gwyn Alf Williams, Mebyon Kernow received almost 10% of the vote, only a fraction smaller than Plaid Cymru. This was also the best ever year for Union Democratique Bretagne as they won approximetly 6% of the vote in local elections, whilst Plaid Cymru disintegrated on the borough council of Merthyr Tudful.
Plaid Cymru almost came to a complete collapse. The leadership was criticized for making alliances with Labour and Gwynfor resigned as President. But, somehow, Welsh nationalism survived. Plaid Cymru grew to become the second largest party in Wales. It matured from being a protest party on the sidelines to being a party which governs in its own Parliament. All of this because of one quite unusual trait in the history of Wales: unity.
Compare this with Cornall. The movement there split in two soon after ‘79. The vote fell to 2% and stayed on that level until relatively recently. The same sorry story of splitting and in-fighting is true of Brittany, where the long list of parties that have come and gone since the 70s reads like material for the famous sketch in the film, The Life of Brian, though on this occation, the Front de Liberation de La Bretagne is the subject matter rather than Judea. Apart from the FLB and the UDB, you had the MOB (which the UDB split from in the 1960s), Frankiz Breizh (which split from the UDB in the 1980s), and the latest addition, le parti bretonne, as well as other marginal groups such as Emgann, Adsav and the MRB. Between them all, they only had about four thousand members, with a small percentage of only two per cent of the vote and only three searts in Brittanys assembly.
Brittanys nationalists aren’t discussing funding a federal university or a daily newspaper or establishing a new language act, nor the closure of small schools to open new and bigger ones, but rather they are discussing the future of all of Diwans’ schools in lights of objections from France. This is therefore an apt response to one maes-e contributor who said last week of Plaid Cymru: “We would be no worse if you weren’t here at all”. Tell that to the Cornish or Brettons, comrade, or the Irish who lost fourty years because of the split between Redmond and Parnell. But how should one repond to ‘Obi Wans’ comment on maes-e – ” Come back John Redwood’ or ‘Lleucu Roberts’ calling Plaid Cymru’s leader a “****”?
If the national movement splits, the whole of Wales will suffer, not just the party that hails its name. Divide et impera, as someone once said. Without unity, without anything.
14th February 2008
Colofn Golwg
Rhodri Glyn Thomas’ announcement that £600,000 will be available over three years to create a daily Welsh language newspaper has led to the usual accusations of treachery. But is this obsession with the printed press putting medium before content at a time when that exact medium is itself being sidelined by the lure of the web?
There is something very last century about the campaign for a daily newspaper. It reminds a person of the wave of national institutions created in the past, starting on the banks of the Moldau (the Prague area of Eastern Europe), progressing to the West as far as Aberystwyth (as exemplified in the University, Library and Books Council), by a small nucleus of intellectuals in backward countries who wanted to announce their arrival into the modern age through stunning architecture.
It is similar to the call for a national theatre, which has become a reality in Welsh and is about to happen in English as well, albeit not through building a huge building on the banks of the Taff, but through establishing a travelling theatre. After all, a national theatre is more than a building. It is a corpus of work by the crew and actors.
In the same way, its not the paper that’s important in a newspaper but the news and the journalists behind the news. To me, that means avoiding printing costs and focusing investment on current and exciting content – investigative and civic journalism, podcasts and up-dates 24/7.
Rather than playing catch-up with the rest of the world, why not play leap-frog and show the world how to create twenty-first century news? In the current financial climate, its apparent to me that an independent daily newspaper is not practical.
We are therefore faced with three possible options. The least exciting would be to include a Welsh language newspaper within one of the English daily newspapers (a development on the Herald Cymraeg model). I cannot see this expanding the media in Wales as it lacks autonomy and seems to be nothing more than a token gesture.
Secondly, and perhaps more revolutionary, the paper could follow the example of De Tijid from Antwerp in the Netherlands who offer a daily newspaper in the form of electronic ink (which changes daily) on a special gadget provided solely to subscribers – more Blade Runner than Baner ac Amserau Cymru. This would transform Wales overnight from a nation of late developers into innovators.
The third option, and possibly the most practical, perhaps, would be to create only an on-line newspaper. This strategy work for newspapers like the Netzeitung in Berlin or the Taloussanomat in Finland. This isn’t treachery, but an opportunity.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Mae cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas taw 600,000 o bunnoedd dros tair blynedd fydd ar gael i greu papur newydd dyddiol Cymraeg wedi esgor ar y cyhuddiadau arferol o frad. Ond ydy’r holl obsesiwn gyda gwasg brintiedig yn rhoi cyfrnwg o flaen cynnwys, a hynny ar yr union adeg y mae’r cyfrwng dan sylw yn cael ei brysur ddisodli gan atyniadau heintus y We.
Mae yna rhywbeth canrif-cyn-ddiwethaf am yr ymgyrch dros bapur dyddiol. Mae’n atgoffa dyn o’r don o sefydliadau cenedlaethol grewyd o lannau’r Moldau i’r coleg (a wedyn y llyfrgell a wedyn y cyngor llyfrau) ger y lli gan gnewyllynoedd o ddeallusion mewn cenhedloedd ‘hwyrfrydig’ oedd am ddatgan eu dyfodiad i’r oes fodern ar ffurf pensaerniol campus.
Mae’n ymdebygu i’r alwad am theatr genedlaethol sydd wedi ei wireddu yn Gymraeg ac sydd ar fin digwydd yn Saesneg hefyd - ond, sylwer, nid trwy adeiladu clamp o adeilad ar lannau’r Taf, ond trwy Theatr teithiol. Wedi’r cwbl, nid adeilad ydy theatr genedlaethol, ond corpws o waith a chriw o actorion.
Yn yr un modd, nid papur sydd yn bwysig mewn papur newydd ond y newyddion a‘r newyddurwyr. Ac mae hynny i mi yn golygu osgoi costau argraffu a chanolbyntio’r buddsoddiad ar gynnwys cyfredol, cyffrous - newyddiaduraeth ymchwiliol a dinasyddol, podlediadau a diweddariadau 24/7.
Yn lle ceisio chwarae ‘catch-up’ gyda gweddill y byd, beth am chwarae ‘leap-frog’ a dangos i’r byd sut i greu newyddion ar gyfer yr unfed ganrif-ar-hugain. O fewn yr amlen ariannol sydd mae’n bur amlwg nad ydy papur dyddiol print annibynnol yn ymarferol.
Erys tair opsiwn felly. Y lleiaf gyffrous fasai cynnwys papur Cymraeg yn un o’r papurau boreol Saesneg (yn rhyw fath o ddatblygiad o fodel yr Herald Gymraeg). Dwi ddim yn gweld y byddai hyn yn ehangu llawer ar amrywiaeth cyfryngol yng Nghymru ac mae perygl o dokenistiaeth a diffyg hunianaeth. Yr ail, ac efallai y mwyaf chwyldroadol, fasai i’r papur dilyn esiampl De Tijid o Antwerp yn yr Iseldiroedd a chynnig y papur yn ddyddiol ar inc electronig (sydd yn newid yn ddyddiol) ar declyn arbennig wedi ei ddarparu i danysgrifwyr. Mwy Blade Runner na Baner ac Amserau Cymru, byddai hyn yn trawsnewid Cymru dros nos o fod yn genedl o ddatbygwyr hwyr i fabwyisiadwyr cynnar. Y drydedd opsiwn, a’r un fwyaf hyfyw efallai, fyddai creu papur ar-lein yn unig. Mae’r strategaeth yma yn gweithio i bapurau fel y Netzeitung yn Berlin neu Taloussanomat yn y Ffindir. Nid brad yw hwn, ond cyfle.
7th February 2008
Colofn Golwg
Mae rhyw fath o gymhlethod hunaniaeth wedi nodweddu’r BBC yng Nghymru ers y cychwyn: ‘rhanbarth cenedlaethol’ – ieithwedd sy’n atgoffa dyn o’r Undeb Sofietaidd - oedd Cymru o fewn corfforaeth Brydeining o1953 tan ddyfodiad datganoli. Mae’r BBC, fel darlledwr dwyieithog, yn anorfod yn cyflogi nifer fawr o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny, yng ngwydd rhai, yn ddigon i’w condemndio nhw a’u cyflogwr fel nyth o genedlaetholwyr. Yn eu hawydd i wrth-brofi hyn, mae golygyddion y BBC dros y blynyddoedd wedi mynd allan o’u ffordd i ddangos eu ‘gwrth-rychedd’. I wneud yn iawn am un darllediad fach gan Saunders Lewis, fe gafwyd chwarter canrif o Vincent Kane a’i lygaid yn pefrio, wrth gwestiynnu un ‘eithafwr iaith’ ar ôl y llall.
Y llynedd, mewn ymyrraeth ddadleuol wedi ei amseru yng nghanol wythnos cynhadleddau cadarnhau cytundeb Cymru’n Un, fe gyhoeddodd y BBC ganlyniadau arolwg barn oedd yn ceisio dangos bod mwyafrif pobl Cymru yn erbyn deddf iaith newydd. Y sawl sy’n llunio’r cwestiwn, wrth gwrs, sy’n llywio’r ateb. Gofynnwyd i bobl a oedden nhw o blaid ‘gorfodi’ y sector preifat i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Pe bae’r BBC wedi dewis gofyn i bobl a oedden nhw yn credu mewn hawliau iaith cyfartal, byddai’r ateb wedi bod yn bur gwahanol, mae’n siwr. Fel crybwyllwyd ar y pryd gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru, mi oedd hyn yn enghraifft clasurol o allu a thuedd y cyfryngau nid i adrodd y newyddion, nag adlewyrchu barn, ond i greu stori, i setio agenda a fframio cwestiwn yn ôl eu dehongliad nhw o’r hyn oedd yn wirioneddol bwysig.
A dyma ni, unwaith eto yr wythnos hon yn clywed y ‘newyddion’ mai dim ond 1% o Siaradwyr Cymraeg sydd yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y cwmnïau mawr. Nid stori newyddion oedd hon – ond naratif, yn cynnwys elfen ffeithiol ond yn cario neges fel is-destun: dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn ‘haeddu’ hawliau newydd.
Tra bod y BBC ym Mhrydain yn colli ei le canolog ym mywyd y genedl gyda dyfodiad y byd aml-gyfrwng, mae ganddi ddylanwad yng Nghymru sydd yn gatholig-ganoloesig ei led. Ar fater Cymru a’r Gymraeg, y BBC sy’n darparu deunydd crai beunyddiol ein trafodaeth gyhoeddus, a hynny yn y ddwy iaith. Os na all hi wneud hynny yn ddi-duedd, efallai y dylid dadorseddu monopli meddyliol arch-esgobion Llandaf. Mae ITV Cymru wedi ennill cytundeb i ddelifro gwasanaeth tywydd i S4C. Oni fyddai’n chwa o awyr iach iddyn nhw gynhyrchu’r newyddion hefyd?
1st February 2008
In the spirit of co-operation….
Since when has the Co-operative Party been a platform of sectarianism? Oh, since Leighton Andrews addressed them an hour and a half ago….
Embargoed until: 19.30hrs - Friday, 1st February
Labour will fight Plaid in its heartland says Leighton Andrews
Speaking to the South West Wales Co-operative Party in Llanelli last night (February 1st) Labour AM Leighton Andrews said that the Assembly coalition arrangements would not stop Labour taking the fight to Plaid Cymru in its heartlands in the upcoming local elections.
Mr Andrews said:
“In Rhondda Cynon Taff we will be fighting hard to expose the opportunism of the nationalists locally. I know colleagues in Carmarthenshire will be doing the same. The Welsh Assembly Government is a coalition, not a merger, and won’t stop us fighting tooth and nail for every council seat.
“There are no ‘no-go’ areas for Labour in Wales”, said Mr Andrews. “Labour can only win a majority in the 2011 Assembly elections if we strengthen our base in West and North Wales. Our appeal needs to go beyond our heartlands. We need to engage better with Welsh-speakers who want to see social justice. We must also reach out to aspirant voters, including those whose lives have been made more comfortable by Labour economic success over the last ten years, and show how Labour can improve their opportunities.
“The local elections will remind people that Labour is a campaigning party, able and ready to campaign within and across communities. Welsh Labour’s community campaigning builds on our history and tradition of community socialism, campaigning with and alongside people from the communities we represent.
“Plaid’s strategy may be to try to divide Labour in Wales from Labour in London, but we must not allow that to happen. We must acknowledge the successes of our UK and Assembly governments as well as Labour in local government, not engage in a blame culture. We are proud to be Welsh, proud to be British, proud to be Labour”
And proud to be an ex-Liberal?