Archive for December 10th, 2007
10th December 2007
Colofn Golwg
Mae Margaret Hodge, y gweinidog Diwylliant yn y gyn-briddinas ymerodrol, yn fodlon ail-ystyried ail-ddylunio fflag yr Undeb i gynnwys Cymru. Hael iawn ohoni, er ei bod hi rhyw dri chan mlynedd yn hwyr. Ond efe’r fflag ydy’r broblem, neu’r Undeb ei hun?
Yr athronydd J. R. Jones a ddangosodd yn ei lyfr ar y pwnc bod Prydeindod yn ideoleg wladwriaethol a grewyd i sicrhau teryngarwch i’r wladwriaeth Eingl-Brydeining. Un o’r hanfodion cynnar oedd sicrhau bod y Celtiaid o fewn y Deyrnas yn teimlo eu bod nhw yn gyfartal – er cymaint yr israddiwyd eu pobl a rheibwyd eu tir. Byddai cynnwys y Ddraig Goch ar Jac yr Undeb – er mor hwyrfrydig – dim ond yn parhau a thraddodiad o dwyll ac hunan-dwyll sydd wedi para canrifoedd.
Wrth gwrs, mae’r bai yn rhannol arnom ni. John Dee, y dyn hysbys o dras Gymreig a gynghorodd Lisbeth y 1af, a boblogeiddiodd ‘Prydeinrwydd’, fel rhan o ymgais y Tuduriaid i greu mytholeg i’w llinach. Arthur a brofodd eu hawl i wisgo’r goron, Madog, “darganfyddwr” yr Amerig, eu hawl i’r aur ar gyfer ei gwneuthuriad. Fel yr Albanwyr hynny ymfalchiodd yn y term ‘North British’ i ddisgrifio eu cenedligrwydd newydd, mae’r Cymry wedi ymhyfrydu yn y myth mai’r Brython rhoddodd sail i Britannia. Ond ar y cyrion yr ydym ni wedi bod erioed – ac y byddwn ni am byth yn y Brydain hon.
Ond yw hi yn bosib, fel yr awgrymodd J R Jones, nid dim ond i obeithio am ddiwedd Prydeinod, yng ngeiriau Gwynfor Evans, ond ei thawsnewid? Mae’r hen ffurfiau a seiliau Prydeindod – er gwaetha ymdrechion Brown – yn gwegian. Ond erys y cyfle i greu perthynas newydd a chydraddoldeb yn realiti yn hytrach nag yn rhith, yn union fel digwyddodd gyda chenhedloedd yr Ymerodraeth Brydeinig wedi’r ail rhyfel byd. Un enw a fathwyd ar gyfer y Gymanwlad newydd ar y pyd oedd yr “Undeb Eingl-Geltaidd”. Dyma un undeb y gallwn ei chofleidio, undeb cymdeithasol fel y’i gelwir gan ein cyfeillion Albanaidd, debyg ‘r Conffederasiwn rhagwelyd gan Gwynfor. Mae’r adeiladwaith gychwynnol yno yn barod yng nghyngor yr Ynysoedd a’r Cyngor Prydeinign-Wyddelig. Gyda sofraniaeth i Gymru a’r Alban, senedd i Loegr ac undod i Iwerddon fe all datblygu i fod yn gynghrair cenhedoledd rhydd fel Cyngor Gogleddol y gwledydd Llychlyn, neu’r Undeb newydd ar gyfer gwledydd Mor y Canol sydd yn freuddwyd gan Arlywydd Sarkozy. A chan fod symbolau mor bwysig, ym maner yr Undeb newydd fe drown yr hen las imperialaidd yn wyrddni Iwerddon a Chymru Rydd.