Archive for November 1st, 2007
1st November 2007
Ray
Mae Cymru heddi wedi colli un o’n goreuon. Fel Carwyn gynt, dyn rhadlon, teimladwy a gwlatgarwr mor dwymgalon.
Mae’n meddylie ni gyd gyda Mari a Gwenan a Manon. Ond mae colli hwn wedi bwrw ni gyd. Mae na deimlad rhyfedd bod Ray yn perthyn i bawb.
Dwi’n cofio ei weld e — yn Tesco’s yng Nghaerfyrddin ddim sbel yn ol, a dyma ei lais yn taranu “Adam, dere draw, mae’mn fraint i mi ysgwyd dy law di’. Y Ray Gravell - y cawr o’r Mynydd- yn gofyn ysgwyd llaw a fi a finne yn ei eilun-addoli fe Stori arall gan un o’n staff heddi am Ray yn croesi’r stryd yn Nulyn i ddweud diolch wrth un o’i ffrindie am wishgo crys y Sgarlets. Dyna’r Ray o’n ni gyd yn nabod: isel, agos-atat-ti, yn gweld y gorau ym mhawb.
Ond ddim bob amser yn gweld ei werth ei hunan. Roedd yr ansicrwydd, y diffyg hyder sydd yn rhan o’n hetifeddiaeth yn rhan annatod o wead Ray.
‘O’n in olreit?” oedd y cwestiwn bob amser ei wefusau hyd yn oed ar ol sgorio cais.
Wel, Ray, yn anaml iawn mae dyn yn lefain wrth wrando ar y radio. Ond dyna le buon ni yn ein miloedd yn y bore bach.
O’t ti’n fwy nag olreit - o’t ti’n bendigedig.
A diolch byth amdanat.