7th June 2006
Gwneud y chwedlau’n fyw
Newydd ddychwelyd o Seoul ar ymweliad i ganfod y rhesymau dros llwyddinat ysgubol diwydiannau cyfynge newydd yn Ne Korea. Mae’r wlad i weld yn mynd trwy ail don o adfywhau. Mi oedd y cynta yn dilyn rhyfel cartre y 50au a’r olion dal i weld mewn prifddinas sydd ar wahan i ambell i deml bron i gyd wedi ei ail-adeiladu yn ei sgil. Mi gafwyd llwyddiant aruthrol wedyn trwy’r cwmniau teuluol enfawr y chaebol - Samsung, Hyundai, Daewoo, LG ac ati - gyda chefnogaeth gref gan y wladwriaeth ganol nad oedd yn ddemocrataidd tan 1997.
Ond dyma flwyddyn hefyd y chwalfa economaidd a chwestiynu yr hen drefn gyda phennaethiaid dau o’r cwmnie mawr bellach yn y carchar o herwydd llwgrwobrwyo.
Y triawd newydd ‘na o ddiwylliant, technoleg ac entrepreneuriaeth sydd yn gyrru tyfiant y Korea. Technoleg o du Samsung sydd wedi llwyddo i oddiweddyd Sony bellach fel arweinydd marchnad ym maes electroneg a chydgyfeiraint ffonau mudol, cyfrifiduron a theledu. Diwylliant trwy’r “don Koreaidd” sydd yn llifo trwy Asia gyda phoblogwrydd K-pop (sef cerddoriaeth poblogaidd boy-bands Seoul), ffilm Koreaidd ac yn arbennig gemau cyfrifiadurol (mwy am hyn isod). O ran entrpreneuriaeth, mae’r llywodraeth yn ceisio creu’r hinsawdd - o ran amodau byw (mwy o lefydd gwyrdd) a threthi (dim treth incwmn o gwbl a 5 mlyneddd i ymchwilwyr) o fewn eu Digital Media City hynod argraffiadol mewn datblyiad newydd ar hen safle gwastraff ar gyrion y ddinas.
Tybed a oes ‘na wersi fan hyn i’r Gymru ol-ddiwydiannol sydd ei hunan wedi colli swyddi yn eiddo i gwmnie’r don gynta o Koreaid (cofier LG?).
Ar ymweliad i gwmni Nexon, un o brif ddatblygwyr gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol MMORG (massively multi-player on-line role-playing games os oes rhaid i chwi wybod) dyma fi’n cael tipyn o sioc i weld mai gem o’r enw Mabinogi, ie wedi ei seilio ar ein chwedlau ni, ydy un o’i brif weithiau gyda 2 filiwn o chwareuwyr yn Korea yn unig a mwy fyth yn Tseina, Taiwan a Japan. Un o brif drefi’r gem ydy Bangor - ac yn wahanaol iawn i wneuthurwyr eraill, does dim trais yn cael ei ganiatau yn y gem o gwbl.
Pan ofynnais i pam y Mabinogi fe ddwedodd y cwmni o herwydd nad oedd hawlfraint arno fe. A beth yw’r wers: beth am i ni ddechrau magu’r math o hyder ym mhotensial ein diwylliant ni yn y byd cymhleth, newydd, syfrdanol o amrywiol hwn a chwmni hanner ffordd dros y byd sydd erioed wedi bod ‘ma?