19th April 2006
Cwm Elan a Chyngor Birmingham
Er mwyn balans, ac ar ol eu beirniadu y diwrnod o’r blaen am eu misdimanars, rhaid nodi bod cwmni Severn Trent wedi cytuno i gyfrannu at Amgueddfa Traftadaeth Cwm Elan. Gwaetha’r modd nid yw Cynghorwyr Birmingham – y ddinas a orfodododd y trigolion lleol allan o’u cartefi – yn teimlo yr un mor edifar a’u tebyg yn Lerpwl yn achos ymddiheuriad Tryweryn. Gellwch darllen y stori yma http://tinyurl.com/jnj32 .
Mae yna rhyw fath o foesoldeb yn y ffaith mai Tori ydy’r Cyng. Mike Whitby sydd wedi achosi’r holl stwr, yn aelod o’r un plaid fa phensaer y boddi, yr arch-imperialydd Joe Chamberlain (a ddechreuodd ei ddyddie yn radical Rhyddfrydol, rhyw fath o Guto Bebb Seisnig y ganrif cyn ddiwethaf?).
Mentra i bod pobl Rhaeadr ychydig bach yn flin am yr holl peth. Efe dyma pam mae na gymal ym Mesur Llywodraeth Cymru yn rhoi’r hawl i’r Ysgrifennydd Gwladol ymyrryd i amddifyn y cyflenwad dwr i Loegr. Ofni i’r werin datws cael llond bola o’r hen wrth-Gymreictod haerllug a gwenwyno’r cwbl liw nos? Bydd angen mwy na chwpl o gannoedd cyn i’r briw yma gwella.